Cartrefi teuluoedd y Lluoedd Arfog yng Nghymru i elwa o gynllun 'adnewyddu unwaith mewn cenhedlaeth' gwerth £9bn i gartrefi milwrol y DU
Bydd staff y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd yng Nghymru yn elwa o'r cynllun trawsnewid tai milwrol mwyaf arwyddocaol y DU ers dros 50 mlynedd.
- Strategaeth newydd Llywodraeth y DU i sicrhau ‘cynllun adnewyddu unwaith mewn cenhedlaeth’ i atgyweirio cartrefi milwrol y DU a sicrhau bod Prydain yn mynd ati i adeiladu, gyda chefnogaeth buddsoddiad gwerth £9bn.
- Bydd Cymru’n elwa o’r uwchraddiad mwyaf i dai’r Lluoedd Arfog mewn dros hanner canrif wrth i fwy na 40,000 o gartrefi milwrol ledled y DU gael eu moderneiddio, eu hadnewyddu neu eu hailadeiladu.
- Mae’r strategaeth yn datgloi un o raglenni adeiladu tai mwyaf uchelgeisiol Prydain ers degawdau, gyda chartrefi newydd i deuluoedd sifil a milwrol ar dir segur y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Bydd staff y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yng Nghymru yn elwa o’r cynllun trawsnewid tai milwrol mwyaf arwyddocaol y DU ers dros 50 mlynedd, gyda mwy na 40,000 o gartrefi i deuluoedd y lluoedd arfog ledled y DU yn cael eu moderneiddio, eu hadnewyddu neu eu hailadeiladu.
Byddant hefyd yn elwa o Wasanaeth Tai annibynnol y Weinyddiaeth Amddiffyn, i reoli cartrefi milwrol yn well ar yr un pryd â’u cadw mewn dwylo cyhoeddus, gan roi lle blaenllaw i leisiau teuluoedd y lluoedd arfog, a chynnig cyfleoedd newydd i filwyr a chyn-filwyr fod yn berchen ar eu cartrefi.
Mae Strategaeth Tai newydd y Weinyddiaeth Amddiffyn, a fydd yn cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth ddydd Llun, yn cael ei chefnogi gan fuddsoddiad gwerth £9 biliwn, a bydd hefyd yn cynyddu’r defnydd o dir segur y weinyddiaeth amddiffyn fel rhan o addewid y Llywodraeth i sicrhau bod Prydain yn mynd ati i adeiladu’r tai sydd eu hangen arnom i hybu twf ym mhob cwr o’r wlad.
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey, wedi nodi’r cyfle hirdymor i adeiladu dros 100,000 o gartrefi newydd, ar dir segur y Weinyddiaeth Amddiffyn - cartrefi ar gyfer teuluoedd sifil a milwrol - gan sbarduno twf economaidd a chefnogi miloedd o swyddi.
Mae’r Strategaeth sydd ar y gweill yn seiliedig ar adborth gan filoedd o deuluoedd y lluoedd arfog, gan gynnwys rhai yng Nghymru, ac mae’n cael ei harwain gan dîm adolygu annibynnol ac arbenigol. Gyda chynllun clir wedi’i gostio ar gyfer y dyfodol, bydd y Strategaeth yn cau pen y mwdwl ar sefyllfa’r gorffennol - ar ôl blynyddoedd o danfuddsoddi cronig a oedd wedi gostwng morâl y Lluoedd Arfog a’i gwneud yn anoddach i gadw staff milwrol.
Fel rhan o’r cynllun ‘adnewyddu unwaith mewn cenhedlaeth’ 10 mlynedd o hyd i foderneiddio neu uwchraddio cartrefi teuluol y Lluoedd Arfog, bydd oddeutu 14,000 cartref yn cael eu hadnewyddu’n sylweddol neu’n cael eu disodli, gan sicrhau cartrefi sy’n addas i’n lluoedd arfog a’u teuluoedd. Bydd llawer yn cael eu gweddnewid yn llwyr - ceginau, ystafelloedd ymolchi a systemau gwresogi newydd i sicrhau bod gan deuluoedd milwrol y cartrefi y maent yn eu haeddu.
Gyda 801 eiddo Llety i Deuluoedd y Lluoedd Arfog yng Nghymru, mae’r Strategaeth yn gam mawr ymlaen tuag at wella ansawdd a chynaliadwyedd tai’r weinyddiaeth amddiffyn yn yr ardal. Yng Nghymru, mae gwaith gwella cyflym eisoes yn mynd rhagddo mewn 107 o dai’r lluoedd arfog ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.
Bydd yr Ysgrifennydd Amddiffyn yn cyhoeddi buddsoddiad gwerth cyfanswm o £9 biliwn dros y degawd nesaf i gyflawni’r Strategaeth, wedi’i ariannu gan y cynnydd mwyaf erioed yng ngwariant y Llywodraeth ar amddiffyn. Mae hyn ar ben yr £1.5bn ychwanegol yn ystod y Senedd hon, a nodwyd yn yr Adolygiad Amddiffyn Strategol, i fynd i’r afael yn gyflym â chyflwr gwael tai milwrol.
Mae’r adnewyddu’n bosibl yn dilyn cytundeb nodedig y llywodraeth ag Annington Homes yn gynharach eleni, a ddaeth â 36,000 eiddo yn ôl dan berchnogaeth gyhoeddus, gan arbed £600,000 y dydd i’r trethdalwr - arbedion sydd bellach yn cael eu hail-fuddsoddi i drwsio tai’r lluoedd arfog a sicrhau bod Prydain yn mynd ati i adeiladu ar dir y weinyddiaeth amddiffyn.
Bydd y Strategaeth yn dangos bod Llywodraeth y DU y tu cefn i’n lluoedd arfog a’u teuluoedd, gan wneud amddiffyn yn sbardun ar gyfer twf ar yr un pryd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey AS:
Bob dydd, mae staff lluoedd arfog Prydain - a’u teuluoedd - yn helpu i’n cadw ni i gyd yn ddiogel. Yn yr oes llawn bygythiadau sydd ohoni, rydym yn dibynnu fwyfwy arnynt bob dydd. Y peth lleiaf maen nhw’n ei haeddu yw cartref teilwng.
Ein Strategaeth Dai newydd y Weinyddiaeth Amddiffyn fydd y cynllun mwyaf o adnewyddu tai’r Lluoedd Arfog ers dros 50 mlynedd. Mae hon yn bennod newydd: sy’n cau pen y mwdwl ar ddegawdau o danfuddsoddi, gyda rhaglen adeiladu i gefnogi teuluoedd milwrol Prydain a sbarduno twf economaidd ledled y wlad.
Fel llywodraeth, rydyn ni y tu cefn i’n lluoedd arfog a’u teuluoedd. Gyda’r buddsoddiad hanesyddol hwn o £9bn, byddwn yn darparu’r cartrefi modern o ansawdd uchel y mae ein Lluoedd Arfog a’u hanwyliaid yn eu haeddu.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o wasanaeth milwrol, ac mae’n iawn fod y tai sy’n cael eu darparu i aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd yn rai o’r safon orau un.
Mae’r Lluoedd Arfog yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru yn ogystal ag i’n diogelwch cenedlaethol. Drwy gyflwyno’r rhaglen hon o foderneiddio eiddo, mae Llywodraeth y DU yn darparu ar gyfer ein milwyr a’u teuluoedd.
Mae ffigurau diweddaraf y llywodraeth yn dangos bod £1.1 biliwn o arian amddiffyn wedi’i wario yng Nghymru’r llynedd yn unig, gan gefnogi 3,900 o swyddi yng Nghymru mewn amrywiaeth o sectorau. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i £340 o wariant amddiffyn y pen yng Nghymru, sy’n brawf o effaith economaidd sylweddol ymrwymiadau amddiffyn y Llywodraeth ar gymunedau yng Nghymru.
Mae gwelliannau cyflym i dai’r Lluoedd Arfog eisoes yn mynd rhagddynt drwy Siarter Defnyddwyr ar gyfer Teuluoedd y Lluoedd Arfog a gyflwynwyd yn gynharach eleni. Bydd cartrefi milwrol newydd a rhai wedi’u huwchraddio yn cyrraedd safonau eiddo modern sy’n cymharu â’r sefydliadau tai proffesiynol gorau, gan sicrhau eu bod yn dai o ansawdd uchel sy’n gynnes ac â digon o le.
Fel rhan o’r Siarter Defnyddwyr, gwnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ymrwymiad i uwchraddio cartrefi y mae’r brys mwyaf i’w hadnewyddu. Mae gwaith i gyflawni’r ymrwymiad hwn yn mynd rhagddo’n gyflym a bydd gwelliannau’n cael eu cwblhau i 1,000 o gartrefi ledled y DU erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Fel rhan o’r ymdrechion i ddatgloi’r ddarpariaeth ehangach o 100,000 o gartrefi ar dir segur y weinyddiaeth amddiffyn, bydd y Strategaeth yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer Cronfa Datblygu Amddiffyn bwrpasol - gan sbarduno cylch buddsoddi hunangynhaliol drwy ryddhau tir segur i’w ddatblygu, gyda’r elw’n cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau yn y dyfodol.
Drwy ddarparu mwy o gartrefi, yn y mannau iawn, gall y Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd sicrhau bod mwy o aelodau’r lluoedd arfog yn gymwys i gael tai - fel cyplau mewn perthnasoedd tymor hir a’r rheini sy’n rhieni nad ydynt yn preswylio yno - er mwyn adlewyrchu bywyd modern yn well. Bydd yn cymryd amser i adeiladu cartrefi i ateb y galw ychwanegol, ond yn y cyfamser, bydd cynllun cymorth rhent yn caniatáu i aelodau’r lluoedd arfog rentu’n breifat nes bod eu cartrefi’n barod iddynt.
Fel rhan o argymhellion y Strategaeth, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i sicrhau bod staff a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn cael cyfleoedd i fod yn berchen ar gartref pan fydd safleoedd Amddiffyn yn cael eu defnyddio i adeiladu tai. Bydd y cyfleoedd ‘Y Lluoedd Arfog yn Gyntaf” i fod yn berchen ar gartref yn berthnasol i gyfran o gartrefi newydd ar rai safleoedd segur y weinyddiaeth amddiffyn, y cytunir arnynt rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, yr awdurdod lleol a’r datblygwr ar sail y galw a hyfywedd y safle.