Stori newyddion

Y Gweinidog Diogelwch yn lansio’r Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol newydd yng Nghymru

Mae Gweinidog Diogelwch Cenedlaethol a Throseddau Economaidd y Deyrnas Unedig, Ben Wallace, yn cynnal y digwyddiad yng Nghasnewydd ynghyd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac awdurdodau gorfodi'r gyfraith Cymru.

Welsh police sign

Copyright: Getty Images

Bydd strategaeth i ddiogelu cymunedau rhag y bygythiad o droseddau difrifol a chyfundrefnol yn cael ei lansio yng Nghymru heddiw (dydd Iau 9 Mai) gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn adeiladu ar gydweithrediad llwyddiannus rhwng awdurdodau gorfodi’r gyfraith, elusennau a Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae Gweinidog Diogelwch Cenedlaethol a Throseddau Economaidd y Deyrnas Unedig, Ben Wallace, yn cynnal y digwyddiad yng Nghasnewydd ynghyd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac awdurdodau gorfodi’r gyfraith Cymru. Byddant yn amlygu’r bygythiad o droseddau difrifol a chyfundrefnol (SOC) ac yn arddangos sut mae gwaith ymyrraeth cynnar arloesol yng Nghymru yn arallgyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o gael eu denu i mewn i hyn.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae yna oddeutu 4,600 o grwpiau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r troseddwyr hyn yn defnyddio trais a bygthiadau mewn cymunedau i weithredu a chymryd mantais ar y mwyaf bregus mewn cymdeithas, o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl i bobl ifanc yn dioddef camfanteisio a cham-drin rhywiol.

Rhan allweddol o’r Strategaeth hon yw rhaglen beilot i gyflwyno Cydlynwyr Cymunedol, yn cynnwys yng Nghasnewydd, Gwent. Bydd y cydlynwyr, sydd wedi eu hariannu gan y Swyddfa Gartref, yn gweithio gyda chymunedau i fagu gwytnwch i’r math yma o droseddau trwy waith ymyrraeth cynnar gyda phobl ifanc a chefnogaeth ar gyfer ysgolion, rhieni a gwarchodwyr.

Yn y lansiad, bydd y Gweinidog Wallace yn dweud:

Dwi’n gweld ar draws darlun cenedlaethol y bygythiad i’n diogelwch yn y Deyrnas Unedig - terfysgaeth, ysbïo, gweithgaredd bygythiad gelyniaethus a llygredd. Mae unrhyw un o’r rhain yn ddigon i’ch cadw ar ddihun dros nos, ond nid yw’n ddim i’w gymharu â graddfa a niwed troseddau difrifol a chyfundrefnol heddiw.

Troseddau difrifol a chyfundrefnol yw’r bygythiad diogelwch cenedlaethol mwyaf niweidiol, a mwyaf marwol yn y Deyrnas Unedig. Mae’n effeithio ar bob un ohonom. Mae troseddwyr lefel uchel yn gweithredu ar draws Cymru - maent lawn mor weithredol mewn pentrefi gwledig ag y maent yn ein dinasoedd.

Bydd y Gweinidog hefyd yn dweud:

Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn gwaith fel Cydlynwyr Cymunedol Casnewydd. Dyma pam ein bod yn uchelgeisiol gyda’r peilot hwn, ac, o weld y llwyddiannau yma, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen.

Dim ond trwy gydweithio y gallwn ni lwyddo.

Mae Cydlynydd Cymunedol Gwent, y Prif Arolygydd Paul Davies o Heddlu Gwent, yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth St Giles a Crimestoppers ar raglen a ddarperir i bob un o naw o ysgolion uwchradd dinas Casnewydd. Mae hyn yn helpu addysgu pobl ifanc am y risg o droseddau difrifol a chyfundrefnol ac yn eu hannog i adrodd ar bryderon. Mae wedi cyrraedd 5,400 o ddisgyblion hyd yma.

Mae Ymddiriedolaeth St Giles a Barnardo’s hefyd yn gweithio gyda phlant oedran ysgol uwchradd sydd wedi eu nodi i fod dan risg o gael eu denu i droseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn darparu cefnogaeth ddwys, arbenigol gydag ymagwedd dan arweiniad cyfoedion. Mae Barnardo’s yn darparu cefnogaeth therapiwtig un i un i’r bobl ifanc, ynghyd â gweithgareddau fel chwaraeon i’w denu i ffwrdd o ffordd o fyw droseddol. Mae Barnardo’s hefyd yn darparu cefnogaeth i’w teuluoedd. Mae Teuluoedd yn Gyntaf, sef rhaglen gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cefnogi rhieni a gwarchodwyr.

Meddai’r Prif Arolygydd Paul Davies:

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn faes cymhleth, ac mae ataliaeth ac ymyrraeth gynnar yn elfennau allweddol i reolaeth effeithiol y bygythiad hwn.

Mae cefnogi’r mwyaf bregus yn ein cymunedau – ein plant – ynghyd â sefydliadau partner yn rhan bwysig o’n gwaith.

Meddai Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru:

Rwy’n croesawu lansiad y Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yng Nghymru heddiw yn fawr iawn.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i wneud ein gwlad yn fwy diogel trwy weithredu ar y cyd i daclo troseddau difrifol a chyfundrefnol a’i effaith andwyol ar gymunedau a phobl fregus.

Mae troseddau difrifol a chyfundrefnol yn broblem gymhleth a chudd yn bennaf yn effeithio ar fwy o ddinasyddion y Deyrnas Unedig nag unrhyw fygythiad arall i ddiogelwch cenedlaethol. Amcangyfrifir bod cost hyn i’r Deyrnas Unedig yn £37 biliwn y flwyddyn.

Mae’r Strategaeth newydd – a lansiwyd yn gychwynnol yn Llundain ym mis Tachwedd – yn sefydlu sut fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adeiladu amddiffyniadau’r wlad yn erbyn y bygythiad hwn, yn mynd ar drywydd y troseddwyr ac yn eu dwyn i gyfiawnder.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac awdurdodau gorfodi’r gyfraith yn parhau i ddefnyddio’r holl drosolion sydd ar gael i ddiogelu cymunedau rhag y bygythiad o droseddau difrifol a chyfundrefnol, i ddatgymalu’r niwed uchaf gan droseddwyr a’u rhwydweithiau a’u dwyn i gyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys defnyddio galluoedd yr asiantaethau diogelwch a chudd-wybodaeth, sancsiynau ac amddifadu o fisâu a dinasyddiaeth.

Yn y cyfamser, bydd yr ymyraethau hyn yn atal pobl fregus, cymunedau a busnesau rhag cael eu targedu gan droseddwyr a chefnogi’r rhai sydd.

Astudiaeth achos

Mae prosiect a ariennir gan y Swyddfa Gartref a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ataliaeth yng Ngheredigion yn helpu oddeutu 30 o bobl ifanc trwy roi cyfle iddynt adnabod goblygiadau cymryd rhan mewn troseddau difrifol a chyfundrefnol, a dysgu sut i nodi sefyllfaoedd risg uchel ac ymarfer dulliau o ymateb.

Maent yn cymryd rhan mewn chwarae rôl sy’n cynnwys cyfarfodydd ar-lein niweidiol posibl, camfanteisio’n rhywiol ar blant a chyflenwi cyffuriau. Cafodd un o’r cyfranogwyr, Graham (nid ei enw go iawn) sy’n 11 oed, ei atgyfeirio i’r rhaglen ddwys gan ei brifathro gan ei fod dan risg difrifol o gamfanteisio gan rwydweithiau troseddol.

Daw Graham o gefndir o drais domestig, yn flaenorol roedd ar y gofrestr diogelu plant ac wedi bod yn siarad gyda dieithriaid sy’n oedolion ar-lein. Yn dioddef o ddiffyg hunanhyder, cafodd ei fwlio a dechrau peidio mynd i’r ysgol yn rheolaidd. Roedd hefyd yn ymosodol ac roedd ganddo berthynas wael â’r heddlu.

Trwy’r rhaglen, derbyniodd Graham gefnogaeth i daclo ei ymddygiad ac emosiynau, ac fe ddysgwyd iddo sut i gadw’n ddiogel ar-lein a magu ei hyder.

Meddai Dr Gareth Norris, gwerthuswr prosiect ar gyfer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ataliaeth Ceredigion:

Er ei bod yn ddyddiau cynnar, does gan Graham ddim gwaharddiadau newydd o’r ysgol, na chyswllt diweddar â’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae nawr yn gallu gofyn yn hyderus am gymorth pan mae angen, yn hytrach na chwilio am gefnogaeth gan rai fyddai’n camfanteisio arno.

Cyhoeddwyd ar 9 May 2019