Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol yn addo: “Wna i ddim gadael i Gymru gael ei gadael ar ôl”

Diweithdra yn cynyddu yng Nghymru

Mae ffigurau newydd yn dangos bod cyflogaeth wedi gostwng ledled Cymru ar ôl gweld cynnydd yn ystod yr haf. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r darlun cyffredinol o ran swyddi yn gadarnhaol.

Mae ffigurau newydd ar gyfer swyddi yn dangos bod cyflogaeth wedi gostwng ledled Cymru ar ôl gweld cynnydd cadarn yn ystod yr haf.

Mae ystadegau’r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd fore heddiw yn datgelu’r canlynol:

  • Mae cyflogaeth wedi gostwng 6,000 dros y chwarter a’r gyfradd wedi gostwng 0.6 pwynt canran i 70.9%.
  • Mae diweithdra wedi cynyddu 3,000 dros y chwarter a’r gyfradd wedi codi 0.2 pwynt canran i 6.1%.
  • Mae anweithgarwch wedi cynyddu 7,000 dros y chwarter.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r darlun cyffredinol o ran y farchnad swyddi yn gadarnhaol – mae cyflogaeth 44,000 yn uwch, mae diweithdra yn is ac mae anweithgarwch 29,000 yn is.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru yn siomedig, yn enwedig o ystyried bod gweddill y DU yn symud i’r cyfeiriad cywir.

Bydd ffigurau yn amrywio o bryd i’w gilydd ond mae’r duedd tymor hir yn dal yn gadarnhaol. Cymru sydd wedi gwneud y cynnydd economaidd gorau yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydyn ni wedi bod yn cau’r bwlch rhyngom a gweddill y wlad.

Ond mae’r ffigurau heddiw yn dangos yn glir bod angen i ni lynu wrth weledigaeth a strategaeth tymor hir Llywodraeth y DU er mwyn cadw economi Cymru ar y trywydd iawn. Rwy’n benderfynol na fyddwn yn cael ein gadael ar ôl.

Cyhoeddwyd ar 11 November 2015