Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

RHAID I FUSNESAU CYMRU ELWA AR Y MANTEISION FYDD YN GYSYLLTIEDIG Â GWELLA’R SEILWAITH RHEILFFYRDD Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

RHAID I FUSNESAU CYMRU ELWA AR Y MANTEISION FYDD YN GYSYLLTIEDIG Â GWELLA’R SEILWAITH RHEILFFYRDD

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi annog busnesau yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd a fydd yn deillio o drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a’r Cymoedd, ar ol i Ystadegau Marchnad Lafur y Sefydliad Llafur Rhyngwladol a ryddhawyd y bore yma ddangos bod y lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng rhyw fymryn.

Mae ystadegau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol heddiw yn dangos bod y farchnad lafur yn dal yn edrych yn gymhleth yng Nghymru, gyda gostyngiad bach yn y lefelau cyflogaeth a chynnydd yn y lefelau diweithdra, yn ogystal a gostyngiad yn y lefel a’r gyfradd anweithgarwch economaidd. Mae cyfradd y rhai sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra wedi aros yr un fath.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol: “Ar ol misoedd lawer o newyddion cymharol gadarnhaol mewn perthynas a chyflogaeth yng Nghymru, mae ffigurau heddiw wedi fy siomi, ond nid wedi fy synnu.

“Maent yn dangos bod y farchnad lafur yn dal yn fregus yng Nghymru, yn ogystal ag ansicrwydd ehangach yn Ardal yr Ewro ac mewn marchnadoedd rhyngwladol eraill. 

“Fodd bynnag, mae’n fy nghalonogi bod camau’n cael eu cymryd i adfer hyder defnyddwyr a busnesau, gan gynnwys y cynllun Cyllid i Fenthyca, sy’n helpu busnesau a theuluoedd i gael gafael ar gyllid mewn ffordd sy’n fwy hwylus ac yn rhatach.

“Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i greu gwell amodau economaidd ledled Cymru, gyda threth gorfforaeth is, buddsoddiad mewn band eang a dyfeisiau cyfathrebu symudol, yn ogystal a chymorth ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith drwy gynlluniau fel y Rhaglen Waith a’r Contract Ieuenctid.

“Rhaid i ni hefyd sylweddoli pa mor bwysig yw’r cyhoeddiad a gafwyd ddydd Llun, sef y bydd mwy na £350 miliwn yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru. Er na fydd y prosiect ei hun yn cael ei gwblhau am flynyddoedd lawer, mae’n cyfleu neges gadarn yn awr i fuddsoddwyr posibl ynglŷn ag ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn nyfodol Cymru ac i bontio’r bwlch economaidd rhwng rhannau o’r DU.

“Mae ffigurau heddiw yn tanlinellu’r ffaith y bydd yn fwyfwy pwysig i Lywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am ddatblygiad economaidd, weithio gyda ni i fanteisio ar bob cyfle i ddenu buddsoddiad ac i greu swyddi. Mae’n rhaid i’r nod gyffredin hon fod wrth galon ein perthynas yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Nodiadau i Olygyddion:

68.1% oedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru, gostyngiad o 0.2% ers y chwarter diwethaf

Roedd y gyfradd diweithdra yn 9.0%, cynnydd o 0.2%

25.0% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd, cynnydd o 0.1%

Roedd cyfradd y rhai sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra yn 5.6% ym mis Mehefin, yr un fath a mis Mai 2012

Cyhoeddwyd ar 18 July 2012