Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn dal ati gyda chynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru

Swyddfa Cymru’n cynnal cyfarfod o amgylch y bwrdd i edrych ar opsiynau ar gyfer cynllun twf

Menai Bridge

Mae dros 20 o benaethiaid cynghorau, sefydliadau busnes a phrif gyflogwyr wedi cwrdd â Gweinidogion Swyddfa Cymru er mwyn dal ati gyda’r agenda ar gyfer cynllun twf yng Ngogledd Cymru.

Bwriad y cyfarfod o amgylch y bwrdd a gadeiriwyd gan Alun Cairns a Guto Bebb ym Mhrifysgol Glyndŵr, Llanelwy, oedd edrych ar beth hoffai’r rhanbarth ei ddatblygu fel economi amlwg.

Roedd uwch gynghorwyr o awdurdodau lleol Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Chilgwri yn ogystal â sefydliadau busnes fel CBI, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Ffederasiwn Busnesau Bach, wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod. Bydd cynrychiolwyr o Toyota ac Airbus yn bresennol hefyd, yn ogystal â phenaethiaid prifysgolion Gogledd Cymru.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Yma mae’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn y byd datblygedig, ac mae Cymru’n tyfu’n gyflymach nag unrhyw ran arall o’r DU heblaw am Lundain. Rwyf am i Ogledd Cymru feddwl am gynigion i sicrhau bod y rhanbarth yn rhannu’r twf hwnnw.

Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i glywed gan arweinwyr lleol a gweld sut gallwn ni fanteisio i’r eithaf ar fod yn rhan o ranbarth Pwerdy’r Gogledd, sy’n ymestyn o Newcastle i Ogledd Cymru.

Mae Pwerdy’r Gogledd yn rhan bwysig o gynllun hir dymor y Llywodraeth i adfer cydbwysedd yr economi a symud oddi wrth ei dibyniaeth draddodiadol ar Lundain a De Ddwyrain Lloegr, ac mae gan Ogledd Cymru ran bwysig i’w chwarae yn hyn o beth.

Cyhoeddodd y llywodraeth yn y Gyllideb ei bod yn ‘agor y drws’ i gynllun twf ar gyfer Gogledd Cymru yn ystod y Gyllideb ac y byddai’n gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru’n datganoli pwerau ac yn buddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o unrhyw gynllun yn y dyfodol.

Delwedd o Bont Menai, diolch i Terence Hill ar Flickr

Cyhoeddwyd ar 31 March 2016