Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn canmol rôl milwyr Cymru yn Niwrnod y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru

Stephen Crabb: “Mae unedau a milwyr wrth gefn o Gymru’n rhan sylweddol o Luoedd Arfog Prydain – heddiw yw ein cyfle ni i ddiolch iddyn nhw ac i gydnabod eu rôl.”

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn mynychu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru, ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, heddiw (dydd Sadwrn, 20 Mehefin).

Bydd yn ymuno â’r cannoedd o wylwyr a fydd yn dod at ei gilydd am ddiwrnod llawn gweithgareddau, gan gynnwys y gwasanaeth awyr agored traddodiadol gyda band a gorymdaith; awyrennau Spitfire a Sea King yn hedfan heibio ac arddangosfa barasiwtio.

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae bob amser yn fraint dod i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, ac mae 2015 yn flwyddyn o bwys. Nid yn unig rydyn ni’n nodi canmlwyddiant y Gwarchodlu Cymreig, ond hefyd dauganmlwyddiant Brwydr Waterloo, lle’r oedd gan y Marchoglu Cymreig rôl arbennig.

Mae unedau rheolaidd a milwyr wrth gefn Cymru wedi gwasanaethu yn Iraq ac Afghanistan, a’r mis hwn anrhydeddodd Ei Mawrhydi’r Frenhines gatrawd y Cymry Brenhinol gyda lliwiau newydd.

Mae heddiw’n gyfle i ddiolch i’n lluoedd arfog am eu cyfraniad nawr ac yn y blynyddoedd a fu. Mae dewrder aelodau’n lluoedd arfog, yn ddynion a menywod, yn dal i ddiogelu ein rhyddid, fel ag erioed.

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn mynychu digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Ne Cymru, a gynhelir yng Nghastell Caerdydd ar 27 Mehefin.

Nodiadau i olygyddion

  • Eleni cynhelir y seithfed Diwrnod y Lluoedd Arfog blynyddol, gyda digwyddiad cenedlaethol ar ddydd Sadwrn, 27 Mehefin 2015. Mae’n gyfle i’r wlad ddangos ei chefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog: milwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, a’r teuluoedd, y cyn-filwyr a’r cadetiaid.
  • Guildford sydd wedi cael ei ddewis i gynnal digwyddiad cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 27 Mehefin
  • Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael yma
Cyhoeddwyd ar 20 June 2015