Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhoi teyrnged i’r Arglwydd Walker
Heddiw, bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn rhoi teyrnged i’r Arglwydd Walker o Gaerwrangon a fu farw’r bore yma. Meddai Mrs …
Heddiw, bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn rhoi teyrnged i’r Arglwydd Walker o Gaerwrangon a fu farw’r bore yma.
Meddai Mrs Gillan: “Estynnaf fy nghydymdeimlad i deulu’r Arglwydd Walker a fu farw’r bore yma yn 78 oed. Roedd yn aelod nodedig o Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1987 ac 1990, bu’r Arglwydd Walker yn gweithio’n ddiflino dros Gymru ac yn gyfaill go iawn i bobl Cymru.”