Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn cwrdd ag arweinwyr cynghorau i lunio gweledigaeth ar gyfer Cynllun Dinesig i Gaerdydd

Stephen Crabb: “Mae yma wobr anferth yma, a fydd o fudd i Gymru gyfan yn fy marn i. Mae’n gyfle i roi Caerdydd yn uwch gynghrair y dinasoedd, gyda Chynllun Dinesig ei hun i roi hwb i swyddi a thwf.”

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwrdd ag arweinwyr cynghorau heddiw (Mehefin 11) i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer Cynllun Dinesig i Gaerdydd.

Mae’r cyfarfod, a gynhelir yng Nghaerdydd, yn dwyn ynghyd arweinwyr awdurdodau lleol sy’n cynrychioli’r rhanbarth a fydd yn elwa o’r Cynllun.

Dywedodd Stephen Crabb:

Er mwyn symud y Cynllun Dinesig yn ei flaen i’r cam nesaf, rhaid i ni feithrin partneriaeth gyda chynghorau, Llywodraeth Cymru a’r gymuned fusnes. Drwy weithio ar y cyd, gall y grŵp hwn hybu twf a swyddi newydd, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ar draws rhanbarth y brifddinas hefyd.

Mae’r cyfarfod heddiw yn gyfle gwych i lunio Cynllun Dinesig posib – ac yn gyfle i ddeall pa broblemau a rhwystrau y bydd yn rhaid i ni eu goresgyn. Mae hyn yn ymwneud â bwrw iddi o ddifrif gyda’r cynllun dinesig uchelgeisiol a chyffrous hwn. “Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop ac mae modd i Gynllun Dinesig ddatgloi ton o fuddsoddiadau newydd. Gadewch i ni wneud yn siŵr nad yw Cymru ar ei cholled.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfu’r Ysgrifennydd Gwladol â ffigyrau blaenllaw o fyd busnes i drafod sut gallai’r sector preifat elwa o Gynllun Dinesig Caerdydd.

Cafodd Mr Crabb drafodaethau â Roger Lewis, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Nigel Roberts, Cadeirydd Cyngor Busnes Caerdydd.

Cadarnhaodd Canghellor y Trysorlys yn y Gyllideb ar 18 Mawrth y byddai trafodaethau’n agor ynghylch Cynllun Dinesig. Mae Cynlluniau Dinesig blaenorol wedi cynnwys buddsoddiadau lleol a chanolog.

Cyhoeddwyd ar 11 June 2015