Ysgrifennydd Gwladol yn gweld “cyfle euraidd” i drawsnewid economi Cymru wrth i gyflogaeth godi eto
Mae ffigurau sydd allan heddiw yn tynnu sylw at farchnad swyddi gynyddol gyda 9,000 o bobl yn ychwanegol yn dod o hyd i waith yn y chwarter diwethaf.
Ar yr un pryd, mae economi sy’n cryfhau yn golygu bod nifer gynyddol o bobl ifanc yn symud oddi wrth fudd-daliadau diweithdra gyda gostyngiad yn nifer flynyddol yr hawlwyr.
Mae ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur yn dangos bod saith allan o bob deg o oedolion yng Nghymru sydd mewn oed gweithio mewn gwaith.
Mae’r cipolwg gobeithiol hwn ar gyflogaeth yng Nghymru yn dod yn sgil adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon ac a ddatgelodd bod safonau byw a chyflogau yn codi ar draws y DU.
Mae ffigurau ystadegau’r farchnad lafur heddiw yn dangos:
- Bod cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 9,000 yn ystod y chwarter diwethaf
- Bod y gyfradd gyflogaeth (cyfran y bobl 16-64 oed sydd mewn gwaith) yn 70.9% - i fyny 0.2 pwynt canran dros y chwarter.
- Bod lefelau diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 7,000 yn ystod y chwarter diwethaf
- Bod y gyfradd ddiweithdra (cyfran y bobl 16+ oed sy’n ddi-waith) yn 6.2% - i lawr 0.5 pwynt canran dros y chwarter.
- Bod nifer yr hawlwyr ifanc wedi gostwng 3,000 yn ystod y flwyddyn.
Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb:
Mae pob un o’r dangosyddion economaidd mawr yn symud i’r cyfeiriad cywir. Mae safonau byw yn gwella, cyflogau yn codi ac mae mwy a mwy o bobl yn mynd allan i weithio. Mae ffigwr chwyddiant ddoe, sef minws 0.1%, yn tanlinellu fel mae incwm real yn tyfu.
Mae’r Llywodraeth hon wedi gwneud llawer o waith caled dros y pum mlynedd diwethaf i greu’r amodau cywir ar gyfer twf.
Nawr yw’r amser i godi ein golygon a’n huchelgais. Nid oes raid i Gymru ddioddef ar waelod y tablau cynghrair ac mae gennym yn awr gyfle euraidd i gau’r bwlch cynhyrchedd ar weddill y wlad a chael gwared ar ein henw drwg hanesyddol fel ‘dyn sâl Prydain.