Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n croesawu ffigurau allforio Cymru

Heddiw mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r newyddion mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn allforion yn ystod…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r newyddion mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn allforion yn ystod y chwarter cyntaf.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’r ffigurau allforio diweddaraf ar gyfer Cymru’n dangos bod rhaid i Gymru ddal ati i geisio cyfleoedd i fasnachu dramor, sy’n hanfodol er mwyn adfer yr economi. Fis diwethaf, treuliais bum niwrnod ar ymweliad masnach a De Ddwyrain Asia, i weld sut mae busnesau’r DU yn ffynnu mewn marchnadoedd cystadleuol a newydd. Mae’r Bathdy Brenhinol yn un enghraifft o fusnes yng Nghymru sy’n manteisio i’r eithaf ar ei sylfaen o sgiliau a thalent i hyrwyddo ei nwyddau dramor, ac roeddwn yn hynod falch o weld cytundeb mawr yn cael ei arwyddo rhwng y cwmni yn Llantrisant a Thrysorlys Gwlad Thai. Bum yn dyst hefyd i’r cysylltiadau masnachu pwysig hyn yn ystod fy ymweliad a Champws Rolls Royce Seletar yn Singapore, sy’n cyflenwi mwyafrif yr injans y mae cwmniau awyr masnachol eu hangen, gyda chydrannau allweddol yn dod gan gyflenwyr yng Nghymru.

“Mae’r Llywodraeth yma’n parhau’n ymroddedig i weithio a Llywodraeth Cymru, UKTi, Llysgenhadon a Llysgenadaethau er mwyn sicrhau bod Cymru’n elwa’n llawn o ymdrechion Llywodraeth y DU i gynyddu masnach dramor. Rydym eisoes yn cymryd camau pendant i wella masnach, buddsoddiad ac amodau twf yn yr economi, gan gynnwys lleihau’r baich rheoleiddiol ar fusnesau yn ein Her Biwrocratiaeth, a gostwng Treth Gorfforaeth.

“Mae’n galonogol iawn gweld busnesau Cymru’n gwneud yn dda er gwaetha’r amodau heriol ar hyd a lled Ewrop ac mae’n bwysicach nag erioed bod Cymru’n parhau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir gan y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr haf yma. Byddant yn gosod Cymru a’r DU ar lwyfan byd-eang.”

Cyhoeddwyd ar 8 June 2012