Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â rhaglenni sy’n cefnogi pobl ifanc yng Nghaerdydd

Heddiw fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymweld a dwy raglen sy’n cael eu cynnal gan yr elusen ieuenctid, Ymddiriedolaeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ymweld a dwy raglen sy’n cael eu cynnal gan yr elusen ieuenctid, Ymddiriedolaeth y Tywysog, yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglenni wedi’u hanelu at helpu pobl ifanc rhwng 13 a 30 oed sydd wedi cael trafferthion yn yr ysgol, sydd wedi bod mewn gofal, sy’n ddi-waith yn y tymor hir, neu sydd wedi bod mewn helbul gyda’r gyfraith, i wneud newidiadau a gweddnewid eu bywydau.  

Fe wnaeth Mrs Gillan ymweld yn gyntaf a chanolfan ddringo Boulders yn y ddinas. Yno, bu iddi gyfarfod a phobl ifanc o raglen xl yr elusen, sy’n cefnogi pobl ifanc 14-18 oed sy’n wynebu amrywiaeth o anawsterau yn yr ysgol, ac a allai fod mewn perygl o gael eu gwahardd neu o dangyflawni. Mae’r rhaglen yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu nodau mewn amgylchedd anffurfiol lle maent yn gallu ymlacio, gan roi cyfle iddynt fagu hyder a chymhelliant.

Nesaf, aeth i Glwb Pel-droed Dinas Caerdydd i ymweld a rhaglen ‘Get Started with Football’ (sy’n cael ei gynnal mewn partneriaeth a’r clwb), sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc 16-25 oed ddatblygu eu sgiliau drwy chwaraeon ac ennill cymwysterau a phrofiad.

Wrth siarad ar ol yr ymweliadau, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Roedd yn bleser mawr cael cyfarfod a dau o raglenni gwych Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglenni yn amlwg yn helpu pobl ifanc i ddatblygu, a magu hyder a phrofiad er mwyn gwella eu bywydau. Fe wnaeth cyfarfod a’r rheini a oedd yn cymryd rhan ar y cyrsiau, a siarad a nhw, ddangos i ni pa mor werthfawr yw’r rhaglenni hyn wrth ymgysylltu a phobl ifanc. Fe wnes i wirioneddol fwynhau gweld yn union sut mae’r mentrau hyn yn creu cyfleoedd i helpu pobl ifanc gyflawni eu potensial, ac yn rhoi dyfodol iddynt. Roedd hefyd yn andros o fraint cael ymweld a stadiwm Dinas Caerdydd am y tro cyntaf gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog.”

Cyhoeddwyd ar 6 December 2011