Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dadorchuddio portread newydd o Ddug Caergrawnt

Bydd y portread newydd gan yr arlunydd Cymreig Dan Llywelyn Hall yn cael ei ddadorchuddio’n swyddogol gan David Jones heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
"Duke of Cambridge"

Secretary of State for Wales David Jones and Dan Llywelyn Hall

Cwblhawyd y darlun i gyd-fynd â chanmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf fis nesaf a chaiff ei ddadorchuddio am y tro cyntaf yn Swyddfa Cymru yn Whitehall.

Teitl y gwaith ydy “Fatherhood”, mae’n ddelwedd olew ar gynfas ac yn mesur 90cm wrth 60cm a chymerodd 3 mis i’w gwblhau.

Mae’n darlunio’r Dug yn gwisgo siwt dywyll a thei coch gyda phabi ar ei frest chwith, yn edrych i fyny’n fyfyriol, yn erbyn cefndir coch.

Mae’r darlun yn seiliedig ar gyfarfod yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd pan welodd y Dug bortread o’r Frenhines o waith Mr Hall dan y teitl “Icon”, a gomisiynwyd gan Undeb Rygbi Cymru.

Caiff y cyhoedd gyfle i gynnig am y portread diweddaraf hwn mewn Arwerthiant i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn Bonhams ar 1 Hydref. Bydd yr holl elw’n mynd i Ymddiriedolaeth Croes Fictoria a’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS:

Mae’n anrhydedd gennyf ddadorchuddio’r portread newydd hwn o Ddug Caergrawnt.

Mae Cymru’n falch iawn o’i chyfoeth o ddoniau creadigol ac mae Mr Hall yn arlunydd ifanc Cymreig gwych y mae ei waith yn adnabyddus ac yn cael ei edmygu nid yn unig ar draws y DU ond hefyd ar draws y byd.

Mae wedi peintio darlun gwych. Rwy’n siŵr y bydd yr arwerthiant yn helpu i godi llawer o arian i ddwy elusen werth chweil y mae eu gwaith yn dod yn bwysicach fyth wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Meddai Dan Llywelyn Hall:

Mae ‘Fatherhood’ yn bortread am thema oesol: pryderon, gobeithion a dyheadau’r dyn teuluol.

Ar ganmlwyddiant y Somme, lle collodd dros filiwn o bobl eu bywydau yng nghanol yr erchyllterau, mae’n briodol cefnogi dwy elusen sy’n cydnabod ffrwyth llafur ein cyndadau ac sy’n cadw’r cof amdanynt yn fyw.

Meddai Frances Moreton, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel:

Mae’r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel wrth ei bodd yn cael ei dewis i dderbyn yr elw o werthu’r portread hwn. Bydd yr holl elw’n mynd tuag at gefnogi’r gwaith o ddiogelu a gwarchod cofebion rhyfel ledled y DU.

Wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gall hyd at 10% o gofebion rhyfel fod angen eu gwarchod a’u trwsio’n ofalus. Bydd rhoddion fel hyn yn galluogi’r elusen i helpu llawer yn rhagor o gymunedau lleol i ofalu’n dyner am ein treftadaeth cofebion rhyfel genedlaethol.

Meddai Gary Stapleton, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Croes Fictoria:

Mae’r portread o’r diweddar Syr Tasker Watkins a beintiwyd gan Mr Hall ychydig o flynyddoedd yn ôl wedi’i drwytho mewn hanes rhyfeddol ac mae’n wych gweld arwyr y genedl a’r rheini a enillodd Croes Fictoria yn parhau i gael eu hanfarwoli drwy gelf - mae’n golygu y cânt eu cofio a’u hanrhydeddu am ganrifoedd lawer.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r dadorchuddio ac yn ddiolchgar am haelioni ardderchog Mr Hall a Swyddfa Cymru. Bydd yr elw o’r arwerthiant yn caniatáu i ni barhau â’n gwaith hollbwysig i adfer beddi arwyr Croes Fictoria.

Gwybodaeth bellach:

  • Fe wnaeth Mr Hall, 33, sy’n enedigol o Gaerdydd, raddio o ysgol gelf yn 2003 cyn ennill gwobr Arlunydd Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times. Cafodd ei bortreadau o’r cyn-filwyr, Henry Allingham a Harry Patch, eu harddangos yng Nghastell Windsor a’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ac, yn awr, maent yn rhan barhaol o’r Casgliad Brenhinol ac o Oriel Gelf Fictoria ym Mryste.

  • Yn 2007 peintiodd bortread o’r diweddar Syr Tasker Watkins - y Cymro cyntaf yn yr Ail Ryfel Byd i ennill Croes Fictoria. Ef hefyd yw’r arlunydd ieuengaf erioed i beintio’r Frenhines.

  • Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar arddangosfa, a fydd yn agor ym Medi, sydd wedi’i hysbrydoli gan waith Dylan Thomas ar gyfer y dathliadau canmlwyddiant yn Llundain. Mae ganddo hefyd arddangosfa flaenllaw yn Sladers Yard yn Bridport. Mae’n agor ar 5 Gorffennaf gydag oddeutu 60 o baentiadau.

Cyhoeddwyd ar 2 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 July 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.