Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu goreuon peirianneg Cymru

David Jones MP: "Mae'r Deuyrnas Unedig mewn ras byd-eang, ac mae gan Gymru ran bwysig i'w chwarae."

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Apprentices

During the visit to Raytheon UK’s site in Broughton this morning (Thursday 3 April) the Secretary of State for Wales David Jones MP will meet the company’s five aerospace apprentices (pictured) including Hayley Keeley and Luke Jones, who are taking part in the first stage of the UK-wide competition ‘WorldSkills for Aeronautical Engineering’, on 12 May in Boscombe Down (from left: Josh Gallagher, Luke Jones, Hayley Keeley, Will Hughes and Jack Lewis)

Heddiw (Ebrill 3) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â rhai o gwmnïau peirianneg mwyaf blaengar gogledd Cymru i ddathlu eu sgiliau a’u talent a thynnu sylw at y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb i gefnogi twf, cyflogaeth a lleihau costau ynni.

Bydd David Jones AS yn ymweld â nifer o gwmnïau bach a chanolig yn ogystal â chwmnïau mwy yng ngogledd Cymru, gan gynnwys:

Safle Brychdyn Raytheon:

Mae Raytheon UK yn cyflogi 70 o arbenigwyr integreiddio ac addasu awyrennau medrus iawn yn ei safle ym Mrychdyn. Mae ei dechnoleg yn cael ei defnyddio yn rhai o systemau gwybodaeth a goruchwylio awyrennau mwyaf dyfeisgar y byd, gan gynnwys ei system awyrennau Sentinel, awyrennau goruchwylio â chriw mwyaf blaengar y DU, y mae ei dimau ym Mrychdyn a Waddington wedi’u darparu i Weinyddiaeth Amddiffyn y DU. Cafodd ei systemau hefyd eu defnyddio’n ddiweddar i gael delweddau o lifogydd y DU er mwyn cydlynu’r ymdrechion i atal rhagor o lifogydd.

Y Grŵp PPA:

Mae’r Grŵp PPA ym Mrychdyn yn cyflenwi cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer y sectorau hedfan, morol a modurol. Mae’r cwmni hefyd yn cefnogi ysgolion a cholegau lleol mewn dylunio peirianneg ac mae’n noddwr diwydiannol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr ifanc.

Consort Precision Diamond Co Ltd:

Mae Consort Precision Diamond Company Limited ym Mae Cinmel yn gwneud naddwyr diemwnt cylchdro sy’n cael eu defnyddio i wneud rhannau ar gyfer y diwydiannau awyrofod, modurol a chynhyrchu ynni. Mae hefyd yn darparu cyngor arbenigol i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd ar ddewis y math gorau o Naddwr Diemwnt Cylchdro.

Porthladd Mostyn (ymweld â safle docio llongau Airbus, a’r safle adeiladu ar gyfer tyrbinau gwynt fferm wynt Gwynt y Môr):

Porthladd Mostyn, un o borthladdoedd hynaf y wlad, yw cartref cyfleuster trosglwyddo adenydd Airbus A380, sy’n golygu ei fod yn ddolen hollbwysig yn y gadwyn ar gyfer gweithgynhyrchu Airbus yng ngogledd Cymru. Mae safle adeiladu tyrbinau gwynt ar y môr Gwynt y Môr hefyd ym Mhorthladd Mostyn. Cafodd y tyrbin gwynt cyntaf ei osod 12km oddi wrth yr arfordir ym mis Mai 2013. Bydd gan y fferm wynt 160 tyrbin - a bydd yn cael ei chysylltu â’r grid yn nes ymlaen eleni - sy’n golygu mai dyma un o’r ffermydd gwynt ar y môr mwyaf yn Ewrop. Ar ôl ei chwblhau, bydd y fferm yn cynhyrchu pŵer ar gyfer hyd at 400,000 o gartrefi yn y DU. Ar 31 Mawrth 2014 cyhoeddodd Banc Buddsoddi Gwyrdd y DU ei fod wedi prynu cyfran o 10% ym mhrosiect Gwynt y Môr RWE mewn cytundeb gwerth £220 miliwn.

Mesurau cyllideb 2014 i gefnogi busnesau:

  • Mae’r lwfans buddsoddi blynyddol yn cael ei ddyblu i £500,000, a bydd yn cael ei ymestyn blwyddyn arall tan fis Rhagfyr 2015. Mae hyn yn golygu y gallai 99.8% o fusnesau dalu dim treth ar fuddsoddi.
  • Mae’r dreth gorfforaeth wedi ei thorri gan 1% hefyd i 21%. Mae wedi disgyn o 28% yn 2010 a bydd yn disgyn ymhellach i 20% ym mis Ebrill 2015, sy’n golygu mai dyma fydd y gyfradd treth gorfforaeth isaf yn yr G20. Mae treth tanwydd wedi cael ei rhewi eto.
  • Bydd Pecyn Ynni Busnes yn golygu arbedion i fusnesau Cymru yn enwedig y rheini sydd â gofynion ynni uchel, hyd at £240 miliwn rhwng 2016-17 a 2018-19.
  • Gallai bron i 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru elwa ar becyn sydd wedi’i ddylunio i’w gwneud yn haws iddynt gael gafael ar gyllid. Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch sut mae sicrhau bod busnesau bach a chanolig y gwrthodwyd rhoi benthyciad iddynt yn cael eu cyfateb yn well i ddarparwyr credyd eraill.

Am ragor o wybodaeth tarwch cliciwch yma

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae galw mawr am wasanaethau a chynnyrch Prydain a thrwy hynny, gwasanaethau a chynnyrch a gynhyrchir yng Ngogledd Cymru, ac, fel gwlad, mae ein proffil byd-eang yn uwch nag erioed o’r blaen.

Mae busnesau bach a chanolig yn cyfrannu 36% o holl drosiant y sector preifat yng Nghymru, ac yn gyfrifol am 630,000 o swyddi. Ers 2010, mae 1,000 yn rhagor o fusnesau bach a chanolig wedi cael eu sefydlu yng Nghymru. Yn wir, mae hyder ymysg busnesau ledled y DU ar ei uchaf erioed, ac ar ei uchaf yng Nghymru ers 2009.

Ond mae’r DU mewn ras fyd-eang ac mae gan Gymru ran bwysig i’w chwarae. Rydym yn cefnogi busnesau, yn fawr ac yn fach, i allforio eu cynnyrch a’u harbenigedd o amgylch y byd.

Er mwyn manteisio ar hyn rydym yn creu’r amodau iawn ar gyfer rhagor o dwf a chyflogaeth drwy dorri trethi a lleihau costau ynni er mwyn i fusnesau yng Nghymru allu manteisio i’r eithaf ar yr holl gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Rhagor o wybodaeth:

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i’w gwneud hi’n haws i fusnesau bach uchelgeisiol dyfu. Mae ei hymgyrch [‘Small business: GREAT ambition’] yn cynnwys mesurau a fydd yn chwalu rhai o’r rhwystrau mae busnesau bach yn eu hwynebu, gwella eu hamgylchedd busnes a’i gwneud yn haws iddynt gyflawni eu potensial. Am ragor o wybodaeth tarwch olwg yma.

Cyhoeddwyd ar 3 April 2014