Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cefnogi Wythnos Fusnes Sir y Fflint

Heddiw [19eg Hydref 2011], fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, siarad mewn digwyddiad arbennig yn Nhŷ’r Cyffredin i gefnogi Wythnos…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [19eg Hydref 2011], fe wnaeth Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, siarad mewn digwyddiad arbennig yn Nhŷ’r Cyffredin i gefnogi Wythnos Fusnes Sir y Fflint. Mae’r digwyddiad blynyddol blaenllaw yn cael ei drefnu gan Gyngor Sir y Fflint, er mwyn helpu i gefnogi cymuned fusnes Sir y Fflint a darparu platfform ar gyfer llwyddiant mewn busnes.

“Mae busnesau ac entrepreneuriaid yn Sir y Fflint yn gwneud cyfraniadau allweddol at adferiad economaidd Gogledd Cymru. Mae cynifer o lwyddiannau i’w gweld yn y rhanbarth o ganlyniad i waith caled parhaus y busnesau hyn, a Chyngor Sir y Fflint hefyd, wrth ddarparu cyfleoedd newydd i fusnesau ddatblygu perthynas fusnes a hyrwyddo llwyddiant mewn busnes.

“Yr wythnos diwethaf, roeddwn i a’r Prif Weinidog yn bresennol wrth i Ffatri’r Gogledd Airbus A350XWB agor. Am wlad fechan, mae’r galluoedd a’r sgiliau gennym i gael ein cydnabod ar raddfa fyd-eang, ond mae’r rhan y mae busnesau bach a chanolig yn ei chwarae yn y rhanbarth hefyd yn amhrisiadwy i economi’r DU drwyddi draw. Mae busnesau bach megis WAG Tail UK yn darparu gwybodaeth arbenigol a sgiliau sy’n cael eu cydnabod ledled y DU. Mae ‘WAG Tail UK’ Sir y Fflint yn darparu cŵn canfod arbenigol i’w defnyddio i ganfod sylweddau anghyfreithlon a drylliau tanio. Maent yn effeithiol wrth chwilio pobl, cerbydau ac eiddo. Mae gan y rhai sy’n trin y cŵn flynyddoedd o brofiad o weithrediadau milwrol a sifil, ac fe gydnabyddir eu gwaith gan nifer o adrannau’r Llywodraeth a chan wobrwyon twf busnes.  Dylen ni fod yn falch iawn o’r llwyddiannau hyn, sy’n rhoi Cymru ar y map.

“Mae Sir y Fflint yn mwynhau cyfradd gyflogaeth iach a chyfradd is o anweithgarwch economaidd na gweddill Cymru. Mae hyn yn glod i fusnesau’r rhanbarth sydd wedi cyfrannu at y math o ffynnu ac ehangu y mae’r Llywodraeth yn ymdrechu i’w greu er mwyn rhoi hwb i dwf cynaliadwy ac wrth gwrs - rhagor o swyddi.”

Cyhoeddwyd ar 19 October 2011