Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn canmol prentisiaid y diwydiant awyrennau.

David Jones yn mynd i seremoni raddio prentisiaid GE Aviation Wales.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
GE Aviation Wales apprentice graduation ceremony.

GE Aviation Wales apprentice graduation ceremony.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, AS, wedi llongyfarch grŵp o brentisiaid o GE Aviation Wales sydd wedi llwyddo i gwblhau eu prentisiaethau yn y cyfleuster atgyweirio awyrennau yn Nantgarw.

Cafodd yr 20 prentis, a gwblhaodd y rhaglen brentisiaeth, eu cydnabod mewn seremoni raddio ar y safle, ac roedd Mr Jones yn bresennol.

A hwythau wedi cymhwyso i fod yn beirianwyr awyrennau, mae’r graddedigion wedi sicrhau gwaith yn y cyfleuster a byddant yn cefnogi’r pedwar prif fath o beiriannau y mae GE Aviation yn arbenigo yn eu cynnal a’u cadw.

Fel rhan o’r cynllun prentisiaeth, mae GE yn gweithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, Coleg Morgannwg gynt, i greu rhaglen brentisiaeth dysgu yn y gwaith - Llywodraeth Cymru. Drwy gydol y rhaglen dair blynedd, mae prentisiaid yn symud o amgylch y busnes, er mwyn iddynt ddeall sut mae’r cwmni’n gweithredu’n well, yn ogystal â datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu cymhwyster ffurfiol.

Mae’r brentisiaeth yn cyfuno hyfforddiant yn y coleg ac yn y gwaith hyd at NVQ Lefel 3 a Thystysgrif Dechnegol gydnabyddedig yn ogystal â Sgiliau Allweddol.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan brentisiaethau rôl allweddol o ran cadw sector awyrofod y DU ar flaen y gad yn y diwydiant yn fyd-eang. Bydd y sgiliau a’r gallu y mae’r prentisiaid hyn yn eu datblygu heddiw yn helpu i symbylu twf ledled diwydiant awyrofod y DU yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae gan y bobl ifanc wnes i eu cyfarfod heddiw gyfoeth o sgiliau a syniadau ffres i’w cynnig, ac yn ogystal â chynnig cyfnod o brofiad gwaith gwerthfawr, gall prentisiaethau fod yn ddechrau ar oes o ddysgu. Mae’r bobl ifanc wnes i eu cyfarfod heddiw wedi cael cyfle i weithio yn un o’r cyfleusterau cynnal a chadw awyrennau mwyaf yn y byd. Mae hyn yn eithaf peth i’w roi ar eu CVs a dymunaf yn dda iddynt i gyd yn y dyfodol.

Mae’r prentisiaid yn cael cynnig cyfle i gymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin fel rhan o’r brentisiaeth. Mae’r cynllun yn annog cymryd rhan mewn gwirfoddoli cymunedol, yn canolbwyntio ar feithrin tîm a datblygu cymeriad a datblygu rhinweddau gan gynnwys hyder a sgiliau cyfathrebu. Ar hyn o bryd, GE yw’r unig gwmni sy’n cefnogi prentisiaid drwy’r cynllun hwn yng Nghymru.

Dywedodd Arweinydd y Safle yn GE Aviation Wales, Mike Patton:

Rydyn ni’n falch iawn o gael dathlu llwyddiant ein prentisiaid. Mae’r brentisiaeth yn gynllun trwm, sy’n gofyn am lawer o sgiliau a gwybodaeth dechnegol. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, fe fyddan nhw wedi datblygu dealltwriaeth gref o’r busnes, a fydd o fantais fawr iddyn nhw ar gyfer eu cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol. Hoffwn longyfarch pob un ohonyn nhw; fe ddylen nhw i gyd deimlo’n falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.

Ers dau ddegawd, rydyn ni wedi sefydlu rhaglen brentisiaeth gadarn yn GE Wales. Rydyn ni’n credu’n gryf mai prentisiaethau yw’r blociau adeiladu ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy i’r busnes ac mae’n ffordd wych o ddatblygu talent ifanc yng Nghymru.

Delwedd drwy garedigrwydd Stephen Hillcoat.

Cyhoeddwyd ar 14 October 2013