Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei ymweliad cyntaf â gogledd Cymru

Ar ei ymweliad swyddogol cyntaf â gogledd Cymru, bydd Stephen Crabb AS yn ymweld ag Airbus ym Mrychdyn a Magellan Aerospace (UK) Limited yn Wrecsam.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Airbus plane

Wrth siarad cyn ei ymweliad, meddai:

Mae’r Llywodraeth hon yn deall cyfraniad allweddol gogledd Cymru at economi Cymru a’i rôl bwysig wrth sicrhau llwyddiant ein cynllun economaidd hirdymor.

Fel yr Ysgrifennydd newydd dros Gymru, byddaf yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo gogledd Cymru; boed hynny drwy wneud gwelliannau parhaus i seilwaith y rhanbarth, sicrhau buddsoddiad newydd, neu hybu diwydiannau amrywiol gogledd Cymru a’r gweithlu hynod fedrus yno.

Dywedodd fod y cyhoeddiad diweddar am wario £10.4 miliwn i uwchraddio rheilffordd Halton Curve a’r cytundeb gwerth £1.2 miliwn i roi hwb i wasanaethau Arriva Trains yn rhai o’r enghreifftiau diweddaraf o gydnabyddiaeth y Llywodraeth i bwysigrwydd economaidd gogledd Cymru.

Mae Mr Crabb hefyd yn manteisio ar ei ymweliad swyddogol cyntaf â gogledd Cymru i dynnu sylw at y ffaith bod y rhanbarth yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y meysydd awyrofod a pheirianneg amddiffyn, gan gymeradwyo sgiliau, talentau a galluoedd y gweithlu yn y sector hwn.

Meddai:

Y diwydiant awyrofod yng ngogledd Cymru yw’r bluen yn het economi Cymru. Yn dilyn cyhoeddiad ddoe bod Airbus Brychdyn yn bwrw ymlaen ag archebion ar gyfer yr awyren A330neo, mae hyn yn ategu’r swyddogaeth allweddol y mae’r diwydiant hwn yn ei chwarae yn economi Cymru ac economi’r DU yn ehangach.

Bydd adenydd yr awyren A330neo yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, gogledd Cymru, sy’n cyflogi 6,000 o bobl.

Meddai:

Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gyfarfod â rhai o’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn rhaglen brentisiaeth newydd Airbus Brychdyn, i weld â’m llygaid fy hun sut mae’r rhaglen hon yn datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy i’r dyfodol.

Dywedodd Steve Crawford, Pennaeth Adenydd Awyrennau Teithiau Hir yn Airbus:

Mae llwyddiant diweddar Airbus yn Farnborough, yn cynnwys lansio’r A330neo yr wythnos diwethaf gyda dros 120 o ymrwymiadau gan gwmnïau awyrennau, yn nodi cychwyn pennod gyffrous arall yn hanes ffatri Brychdyn a gweithgynhyrchu yn y DU.

Rydym wrth ein bodd o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’n cyfleuster o’r radd flaenaf er mwyn iddo weld â’i lygaid ei hun pa mor bwysig yw’r sector awyrofod yng Nghymru.

Er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y gadwyn gyflenwi yn y diwydiant awyrennau yng ngogledd Cymru, bydd Mr Crabb hefyd yn ymweld â Magellan Aerospace (UK) yn Wrecsam, sy’n cyflenwi cydrannau strwythurol awyrofod i Airbus.

Meddai Adrian Young, Rheolwr Gweithrediadau Magellan Aerospace (UK) Limited:

Rydw i wrth fy modd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gweld yn dda i ddod draw i’n gweld yn Wrecsam. Mae’r busnes hwn yn Wrecsam wedi ehangu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym nawr yn cyflogi dros 400 o bobl.

Rwy’n falch o gael y cyfle i ddangos i Ysgrifennydd Gwladol Cymru beth allwn ni ei wneud a chael ei gefnogaeth ar gyfer ein cynlluniau i fuddsoddi mewn pobl ac offer yn y dyfodol.

Mae’r diwydiant awyrofod yn cyflogi dros 23,000 o bobl mewn 130 o gwmnïau yng Nghymru. Disgwylir y bydd y diwydiant, ledled y DU, yn tyfu ar gyfradd o 6.8% dros y blynyddoedd nesaf. Dywedodd Mr Crabb fod y Llywodraeth yn ymroddedig i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn geffyl blaen ym maes gweithgynhyrchu ar gyfer y diwydiant awyrofod yn Ewrop. Pwysleisiodd y byddai Llywodraeth y DU yn ymladd am bob contract ar bob cyfle posib, gan weithio ar y cyd â’r diwydiant i fanteisio i’r eithaf ar y potensial anferth am dwf.

Cyhoeddwyd ar 24 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 July 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.