Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn canmol diwydiant teledu Cymru gan ddweud ei fod yn “fodel o lwyddiant creadigol”

Heno (Gorffennaf 15) mae Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cynnal derbyniad yn Llundain i ddathlu llwyddiant diwydiant teledu Cymru.

Y Gwyll: Hinterland

Bydd gwesteion o fyd teledu masnachol, BBC Cymru, S4C a’r sector ffilmiau annibynnol yn dod at ei gilydd yn Nhŷ Gwydyr i nodi blwyddyn anhygoel, llawn llwyddiant, i’r diwydiant teledu yng Nghymru.

Mae fformatau a sioeau teledu sydd wedi’u creu yng Nghymru bellach yn cael eu gwerthu ledled y byd, ac maent yn rhoi’r wlad ar y map fel canolfan greadigol a lle cost-effeithiol i wneud rhaglenni. Mae Cymru’n gartref i dros 50 o gwmnïau teledu ac animeiddio sydd, gyda’i gilydd, yn cynhyrchu oddeutu £1 biliwn i economi Cymru.

Mae llwyddiannau sector darlledu Cymru’n cynnwys:

  • Y Gwyll (Hinterland) – mae’r rhaglen bellach wedi cael ei gwerthu i dros 25 o wledydd ar draws y byd, gan gynnwys Gwlad yr Iâ, Norwy, Japan, yr Iseldiroedd a Ffrainc.
  • Mae cyfres ddrama BBC1 The Indian Doctor wedi cael ei gwerthu i wledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Tsieina, Estonia, Mecsico ac Israel
  • Cymru yw canolfan cynhyrchu Dr Who – cyfres deledu eiconig, lwyddiannus o Brydain sydd wedi cael ei dangos mewn dros 200 o wledydd a’i throsleisio i sawl iaith.
  • Fferm Ffactor, sydd bellach wedi’i thrwyddedu ac yn cael ei chynhyrchu yn Denmarc, Sweden a Tsieina
  • Y rhaglen i blant, Ludus sydd i’w gweld ar CBBC (mae’r ap sy’n deillio ohoni wedi ennill gwobr BAFTA Cymru)

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae Cymru’n ganolfan anhygoel ar gyfer creadigrwydd.

Mae marchnad ddarlledu Cymru’n adlewyrchu popeth o ddarpariaeth Gymraeg S4C i raglenni newyddion a materion cyfoes a’r ystod o fformatau adloniant a drama o safon uchel sy’n tyfu drwy’r amser.

Mae rhaglenni Cymru’n cael eu hallforio ledled y byd, ac mae rhagor o gwmnïau ffilm a theledu yn awyddus i gomisiynu a ffilmio eu cynyrchiadau yng Nghymru.

Mae gennym ni stiwdios o safon fyd-eang, a’r holl gyfleusterau cynhyrchu ac animeiddio sydd eu hangen arnoch i gynhyrchu rhaglenni o fri. Mae’r holl arbenigedd sydd ei angen ar gwmnïau ffilm a theledu ar gael yng Nghymru.

Bydd heno’n gyfle i weld y creadigrwydd a byddwn yn cael cipolwg ar faes sydd wir yn tyfu. Rwy’n benderfynol y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo darlledu yng Nghymru a denu diddordeb rhyngwladol yn y sector.

Cyhoeddwyd ar 15 July 2015