Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n canmol y llu o archebion a gafodd Airbus yn Sioe Awyr Paris

Stephen Crabb: Y cytundebau awyrennau diweddaraf “yn brawf o sgiliau’r gweithlu yng Nghymru”

Airbus

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, wedi canmol y llu o ymrwymiadau ac archebion am awyrennau yn Sioe Awyr Paris gan ddweud bod hynny’n brawf o ddoniau a gallu arloesol y diwydiant awyrennau yng Nghymru.

Sicrhaodd y cwmni 124 archeb bendant a 297 o ymrwymiadau am awyrennau yn y sioe awyr, gwerth cyfanswm o £36 biliwn.

Daeth y newyddion yn ystod yr wythnos pan ddatgelodd ffigurau UKTI fod Cymru wedi cofnodi 101 o brosiectau buddsoddi uniongyrchol tramor y llynedd, gan dorri’r record flaenorol o 79 yn 2013-14.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r buddsoddiad parhaus gan gwmnïau awyrennau o bob cwr o’r byd yn brawf o sgiliau gweithlu Airbus ym Mhrydain, a’r hyder sydd ganddyn nhw yn ein harbenigedd ym maes gweithgynhyrchu.

Mae pawb sy’n teithio ar awyren Airbus i unrhyw le yn y byd yn hedfan ar adenydd sydd wedi cael eu gweithgynhyrchu yn ei safle ym Mrychdyn, gogledd Cymru.

Y diwydiant awyrofod yw prif drysor economi Gogledd Cymru ac mae Airbus yn enghraifft wych o’r effaith gadarnhaol y gall buddsoddiad o dramor ei chael. Mae’r archebion diweddaraf hyn yn nodi cychwyn pennod gyffrous arall ar gyfer ffatri Brychdyn, gan gynnal miloedd o swyddi yn y sector awyrennau a’r busnesau hynny sydd yn y gadwyn gyflenwi.

Cyhoeddwyd ar 19 June 2015