Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cadeirio trafodaethau ynghylch datganoli

Ysgrifennydd Cymru’n trafod y setliad datganoli ar gyfer Cymru ag arweinwyr Cynulliad Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Secretary of State for Wales with Welsh Assembly leaders

Devolution discussions

Heddiw (8 Rhagfyr 2014), cadeiriodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb AS gyfarfod ag arweinwyr Cynulliad Cymru ynghylch sut i greu setliad clir, cadarn a hirhoedlog ar gyfer Cymru.

Trafododd Mr Crabb ystod o faterion ag arweinwyr y Cynulliad, gan gynnwys yr achos dros fodel cadw pwerau i Gymru a’r argymhellion yn ail Adroddiad Silk â’r Prif Weinidog Carwyn Jones (Llafur), Andrew R T Davies (Ceidwadwyr), Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) a Leanne Wood (Plaid Cymru).

Y cyfarfod heddiw yw’r diweddaraf mewn cyfres o drafodaethau y mae Mr Crabb wedi bod yn eu harwain â gwleidyddion Cymru i helpu i sicrhau consensws trawsbleidiol ynghylch dyfodol datganoli yng Nghymru.

Dywedodd Mr Crabb:

Rwyf wedi nodi dyddiad uchelgeisiol, sef Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf, ar gyfer cyhoeddi canllaw ar gyfer newid y modd y caiff Cymru ei llywodraethu.

Rwyf am ddod â’r drafodaeth ynghylch pa bwerau ddylai gael eu datganoli i Gymru a pha rai ddylai aros yn San Steffan i ben a chanolbwyntio ar y pethau sydd wir yn bwysig i bobl - swyddi, yr economi a gwell gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam fy mod i’n gweithio i sicrhau consensws trawsbleidiol i nodi’r materion rydym yn cytuno arnynt, er mwyn i ni gytuno’n gyffredinol ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer datganoli yng Nghymru.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.

Y mis diwethaf, cyflwynodd Mr Crabb ei weledigaeth ar gyfer datganoli yng Nghymru. Darllenwch araith Mr Crabb yma

Cyhoeddwyd ar 8 December 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 December 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.