Ysgrifennydd Gwladol yn mynychu Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2014
Stephen Crabb i gyfarfod ag aelodau o Dîm Cymru
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb AS i gyfarfod ag athletwyr o Dîm Cymru ganol ddydd heddiw i ddymuno’n dda iddynt ar drothwy Gemau’r Gymanwlad.
Yn siarad o flaen ei ymweliad heddiw dywedodd:
Mae Cymru yn genedl sy’n ymfalchïo yn ei chryfderau ym maes chwaraeon ac mae’r nifer sylweddol o athletwyr sy’n cymryd rhan yn y Gemau hyn yn dyst i’r cryfder a’r angerdd hwn.
Gemau’r Gymanwlad yw’r unig ddigwyddiad sy’n cynnwys nifer o wahanol gampau ble mae Cymru yn cystadlu fel cenedl felly mae’n arbennig o bwysig i bobl Cymru. Mae’n gyfle unigryw ac ysbrydoledig i Gymru gystadlu o dan ei baner ei hun ar lefel elitaidd.
Mae’r genedl gyfan yn cefnogi Tîm Cymru wrth i Gemau’r Gymanwlad baratoi i agor. Dwi’n dymuno pob llwyddiant dros y dyddiau i ddod iddyn nhw.