Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn Expo Amddiffyn Byd-eang

Heddiw, bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru yn dweud wrth gwmnïau Amddiffyn yng Nghymru fod Llywodraeth y DU yn barod i’w helpu i fanteisio ar farchnadoedd newydd wrth i ni baratoi ar gyfer Brexit.

Bydd Alun Cairns yn dweud wrth gwmnïau Amddiffyn yng Nghymru, wrth siarad yn y digwyddiad Cyfarpar Diogelwch ac Amddiffyn Rhyngwladol (DSEI) yn Llundain (13 Medi), mai nawr yw’r amser delfrydol iddynt gynyddu eu hallforion.

Bydd yn dweud wrth gwmnïau bod Cymru eisoes yn un o’r llefydd mwyaf cystadleuol yn y byd i arloesi, adeiladu busnes a darparu diogelwch. Fodd bynnag, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn dod â chyfleoedd cyffrous i gwmnïau ledled y wlad.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae Cymru eisoes yn gartref i lawer o gwmnïau amddiffyn byd-eang, sydd wedi dangos eu llwyddiant drwy sicrhau contractau mawr yn wyneb cystadleuaeth o dramor. Mae hyn yn brawf o sgiliau ac arbenigedd y gweithlu yng Nghymru ac rydw i wrth fy modd yn gweld cynifer o gwmnïau allforio ac amddiffyn o bob maint o Gymru mewn digwyddiad mor flaenllaw yn rhyngwladol.

Mae llwyddiant yn golygu troi cyfleoedd yn newidiadau, felly rydw i am i’r cwmnïau hyn achub ar y cyfle hwn i archwilio marchnadoedd newydd a darganfod y cyfleoedd fydd yn dod law yn llaw â gadael yr UE.

Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i gefnogi busnesau Cymru a chreu’r amgylchedd iawn iddyn nhw ffynnu. Rydyn ni yma i’w cefnogi ar eu taith allforio, gan eu helpu i oresgyn y rhwystrau a magu hyder.

Dros bedwar diwrnod, mae’r digwyddiad ‘Cyfarpar Diogelwch ac Amddiffyn Rhyngwladol’ (DSEI) yn Llundain yn denu hyd at 34,000 o ymwelwyr gyda llawer o fusnesau o Gymru yn arddangos yno. Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwrdd â chwmnïau fel BCB International, GD UK a Raytheon yn ogystal â busnesau bach a chanolig ac yn ailategu’r partneriaethau agos rhwng y sector ac yn dangos iddynt sut gall Llywodraeth y DU eu cefnogi i allforio, canfod y rhwystrau a’u helpu i’w goresgyn cyn Brexit.

Mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllaw allforio ar gyfer busnesau yng Nghymru, sy’n cynnwys manylion llawn y cymorth sydd ar gael i gwmnïau allforio: DOLEN

Cyhoeddwyd ar 13 September 2017