Datganiad i'r wasg

Y SECTOR AWYROFOD YNG NGHYMRU YN FFYNNU, MEDDAI CHERYL GILLAN YM MHENCADLYS AIRBUS YN FFRAINC

Yn ystod ymweliad a phencadlys Airbus yn Ffrainc, bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn canu clodydd am waith y cwmni. Roedd yr …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ystod ymweliad a phencadlys Airbus yn Ffrainc, bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn canu clodydd am waith y cwmni.

Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld a phencadlys y cwmni yn Toulouse wrth iddynt ddathlu’r flwyddyn orau erioed o ran archebion a chyflenwi awyrennau.  Llwyddodd Airbus i gael y nifer fwyaf erioed o archebion gros ar gyfer gwneuthurwr awyrennau ac roedd cynhyrchedd y cwmni wedi cynyddu am y 10fed ­blwyddyn.

Estynnwyd croeso i’r Ysgrifennydd Gwladol yn y pencadlys yn Toulouse gan Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol (Rhaglenni) a Katherine Bennett, Is-Lywydd Pennaeth Materion Gwleidyddol, cyn cael ei thywys o amgylch Llinell Gynhyrchu Derfynol yr A380 gan Paul Mackenzie, Rheolwr Tramor A380. Talodd deyrnged i weithwyr Cymru am eu cyfraniad at lwyddiant y cwmni gan danlinellu pwysigrwydd gweithlu medrus a chymwys er mwyn rhoi hwb i’r potensial ar gyfer twf ac arloesedd yng Nghymru. 

Roedd Ysgrifennydd Cymru yn bresennol fis Hydref diwethaf pan oedd Prif Weinidog y DU wedi agor ffatri adenydd Airbus, gwerth £400m, yn Safle Brychdyn y cwmni yng Ngogledd Cymru. Maent eisoes wedi cael 567 o archebion ar gyfer yr awyrennau arbenigol eco-effeithlon.  Ar y pryd, dywedodd y Prif Weinidog fod Airbus yn cyfrannu at economi fwy cytbwys, gyda buddsoddiad preifat, gweithgynhyrchu ac allforio cryfach.  Roedd Cyllideb y Canghellor ym mis Mawrth hefyd yn tanlinellu’r cyllid ychwanegol a fyddai’n cael ei ddarparu ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes aerodynameg.  Mae Airbus yn dal i fod yn un o fewnfuddsoddwyr mwyaf y DU ym maes ymchwil a datblygu, gan wario cyfanswm o £417 miliwn yn 2011.

Wrth siarad ym Mhencadlys Airbus yn Ffrainc, dywedodd Mrs Gillan:

“Mae fy ymweliad heddiw a Toulouse unwaith eto yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithlu Cymru i weithgareddau byd-eang Airbus.  Mae’r cwmni’n cefnogi ac yn cynnal miloedd o swyddi yng Nghymru ac yng ngweddill y DU ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru y seilwaith cywir i alluogi busnesau i weithredu a thyfu. 

“Nid yn unig bod Airbus yn parhau i fuddsoddi’n drwm yn y DU, gyda chontract gwerth $2.3bn am 11 A330s ar gyfer Garuda a lofnodwyd yn Indonesia gan y Prif Weinidog fis diwethaf, ond roeddwn wrth fy modd yn clywed am ymdrechion Airbus i ymestyn ei raglenni ar gyfer graddedigion, prentisiaid ac interniaid.  Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i gynnig cyfleoedd go-iawn i bobl ifanc er mwyn meithrin sgiliau sy’n ddeniadol i gyflogwyr yn y sector preifat.

“Mae’r buddsoddiad a gynigir gan gwmniau fel Airbus yn hanfodol i dwf economaidd y DU. Mae enw da cynyddol Cymru fel gwlad arloesol o’r radd flaenaf, a’r cyllid a ryddhawyd yn ddiweddar ar gyfer ymchwil a datblygu, yn cefnogi diwydiant awyrofod sy’n ffynnu. Mae cyfran y DU yn y diwydiant hwn yn 17% o’r holl ddiwydiant yn fyd-eang, ac mae cyfraniad parhaus Cymru at lwyddiant Awyrofod yn destun balchder.”

Dywedodd Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol (Rhaglenni):  

“Rydym yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i weld y llinellau cynhyrchu terfynol yn Airbus yn Toulouse heddiw.

“Mae’r tim o 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn yn chwarae rol allweddol yn cynhyrchu adenydd ar gyfer rhai o awyrennau gorau’r byd ac mae Cymru wedi profi ei bod yn gyfrannwr pwysig at y sector awyrofod llwyddiannus iawn yn Ewrop.”

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:**

  • Mae Airbus yn cyflogi tua 6,600 o bobl ym Mrychdyn a bron 4,000 yn Filton. Mae’r cwmni’n cefnogi tua 100,000 o swyddi eraill ledled y sector awyrofod yn y DU.
  •  Mae Airbus yn y DU a’i gadwyn gyflenwi yn cyfrannu cyflenwadau a gwasanaethau gwerth bron £2 biliwn yn flynyddol at economi’r DU
  •  Mae Airbus yn buddsoddi tua £3 miliwn y flwyddyn mewn hyfforddiant a sgiliau yn y DU.
Cyhoeddwyd ar 4 May 2012