Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol a chynghorau i sbarduno Cynllun Dinesig

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn galw ar arweinwyr cyngor i gefnogi cynlluniau ar gyfer Cynllun Dinesig Caerdydd.

Stephen Crabb, Secretary of State for Wales, meets Roger Lewis, Chairman of Cardiff Capital Region Advisory Board

Stephen Crabb, Secretary of State for Wales, meets Roger Lewis, Chairman of Cardiff Capital Region Advisory Board. The two met to discuss the details of a City Deal for Cardiff.

Heddiw (dydd Llun 8 Mehefin), dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod wedi galw ynghyd arweinwyr cyngor o brifddinas ranbarth Caerdydd i sbarduno cynlluniau ar gyfer Cynllun Dinesig Caerdydd.

Bydd y cyfarfod - sydd i’w gynnal ar 11 Mehefin - yn dwyn ynghyd arweinwyr awdurdod lleol sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio’r rhanbarth a fydd yn manteisio ar fuddiannau cymdeithasol ac economaidd y Cynllun.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r Ysgrifennydd Gwladol gynnal cyfarfodydd gyda ffigurau amlwg o’r byd busnes, gyda’r nod o gynnal y momentwm ar gyfer sicrhau bod Cynllun Dinesig Caerdydd yn symud i’r cyfeiriad cywir.

Cyfarfu Mr Crabb â Roger Lewis, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Nigel Roberts, Cadeirydd Cyngor Busnes Caerdydd, i drafod sut bydd y Cynllun yn cefnogi busnesau rhanbarthol.

Cadarnhawyd cychwyn trafodaethau ynglŷn â Chynllun Dinesig gan Ganghellor y Trysorlys yn y Gyllideb ar 18 Mawrth. Mae cyn Gynlluniau Dinesig wedi cynnwys buddsoddi lleol a chanolog.

Dywed yr Ysgrifennydd Gwladol:

Caerdydd yw prifddinas ieuengaf Ewrop; mae’n lle bywiog a fu unwaith yn grud i’r chwyldro diwydiannol ond sydd yn awr yn wynebu dyfodol cyffrous fel lle i fuddsoddi arian ynddo.

Mae eisoes yn elwa ar seilwaith digidol addas ar gyfer yr 21ain ganrif megis Cyfnewidfa Ryngrwyd Caerdydd – esiampl wych o Lywodraeth, busnes a phartneriaid lleol yn gweithio ynghyd.

Fy ngobaith yw y gwelwn Gynllun Dinesig Caerdydd, yn cael ei weithredu fel hyn - ond ar raddfa a fydd yn dwyn budd nid yn unig i bobl Caerdydd, ond ar hyd a lled y brifddinas-ranbarth.

Mae’r adferiad yn prysuro drwy Gymru benbaladr ac yma yng Nghaerdydd, mae gennym gyfle unigryw. Y dasg yn awr yw dwyn ynghyd y sector preifat, Llywodraeth Cymru, a’r cynghorau hynny sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Ledled y DU, mae Cynlluniau Dinesig yn sicrhau buddsoddi sylweddol, gan fraenaru tir ar gyfer prosiectau seilwaith newydd a phennu gweledigaeth strategol glir ar gyfer ffynnu. Nid wyf am weld Cymru’n cael ei gadael ar ôl.

Nodiadau i olygyddion:

  • Mae’r arweinwyr a wahoddwyd yn cynrychioli cynghorau sy’n gwasanaethu Caerdydd; Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Dinas Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen a Bro Morgannwg.
Cyhoeddwyd ar 8 June 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 June 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.