Datganiad i'r wasg

Yr Ail Uwchgynhadledd ar Swyddi i Bobl Ifanc yn dod i Ogledd Cymru

Heddiw (12 Gorffennaf) yn Wrecsam, bydd uwchgynhadledd dan ofal Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones, yn rhoi sylw ar fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Ngogledd Cymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
SofS and PUSS (L) with Jasbir Dhesi, Principal of Yale College

Secretary of State and Baroness Randerson with Jasbir Dhesi, Principal of Yale College

Dyma’r ail ddigwyddiad o’i fath yng Nghymru eleni, a bydd Uwchgynhadledd Swyddi Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar hyrwyddo cyflogaeth i bobl ifanc yn y sector Busnesau Bach a Chanolig a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.

Disgwylir y bydd dros 50 o randdeiliaid yn dod i’r digwyddiad yng Ngholeg Iâl, a’r rheini o’r llywodraeth, llywodraeth leol, cyrff busnes, cwmnïau lleol a sefydliadau cyflogadwyedd.

Bydd y cynadleddwyr yn trafod sut mae cynnig mwy o brofiad gwaith, hyfforddiant galwedigaethol a chyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc. Byddant hefyd yn clywed gan bobl ifanc a fydd yn dweud hanes eu profiadau o ddod o hyd i waith.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Creu swyddi yw’r eitem bennaf ar agenda economaidd y DU. Creu swyddi ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yw un o’r eitemau pennaf ar fy agenda i.

Mae’r busnesau sy’n dod i’r Uwchgynhadledd Swyddi hon yn dod yma am fod rhagolygon swyddi i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn bwysig iddynt. Mae angen i ni ddangos i gyflogwyr ein bod ni, drwy gynlluniau megis ein cynlluniau profiad gwaith a phrentisiaeth, yn helpu i greu cenhedlaeth sy’n awyddus, yn fedrus ac yn fwy parod ar gyfer byd gwaith.

Drwy gydweithio ar draws y llywodraeth ac ar draws busnesau, gallwn helpu pobl ifanc Cymru i gael gwaith a sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd y credwn eu bod yn bendant yn eu haeddu.

Bydd Uwchgynhadledd Swyddi Gogledd Cymru hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan y Ganolfan Byd Gwaith ynghylch sut mae helpu pobl ifanc i gael y profiad sy’n hanfodol i sicrhau cyflogaeth.

Dywedodd Martin Brown, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwaith gyda Canolfan Byd Gwaith Cymru:

Ers yr Uwchgynhadledd Swyddi gyntaf ym mis Chwefror, mae diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru wedi gostwng oddeutu 12%. Mae hynny gyfystyr â dros 3000 o bobl ifanc ychwanegol yn gweithio gan gyfrannu at dwf busnesau ledled Cymru.

Llwyddwyd i wneud hyn oherwydd bod cyflogwyr wedi cydnabod potensial pobl ifanc ac wedi gweithio gyda’r Ganolfan Byd Gwaith a meysydd eraill yn y sector cyhoeddus i helpu pobl a oedd yn chwilio am waith i gymryd y cam cyntaf i gael gwaith. Mae llawer i’w wneud o hyd ond mae cymorth ymarferol ar gael i gyflogwyr ac i’r rheini sy’n chwilio am waith. Mae’r Uwchgynhadledd Swyddi hon yn cynnig cyfle gwych i adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni ers mis Chwefror.

Bydd un o gyflogwyr allweddol Gogledd Cymru, Airbus, yn y digwyddiad hefyd. Mae’r cwmni wedi cofrestru dros 4,000 o brentisiaid mewn amrywiol gynlluniau ledled y DU dros y tri degawd diwethaf. Yn 2012, recriwtiodd safle Brychdyn 67 o brentisiaid ac maent yn disgwyl y bydd ganddynt le i dros 70 o brentisiaid israddedig yn 2013.

Dywedodd Gary Griffiths, Pennaeth Prentisiaethau ar gyfer Airbus yn y DU:

Yn Airbus, ein prentisiaid yw dyfodol ein busnes ac maent yn cychwyn ar yrfa lle nad oes ben draw iddi yn llythrennol.

Rydym yn gweld bod mwy a mwy o bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn ystyried prentisiaethau yn lle mynd i’r brifysgol ac fel llwybr at yrfaoedd sefydlog dros dymor hir. Mae prentisiaeth Airbus i israddedigion yn cynnig profiad gwaith cyflogedig wrth iddynt astudio am radd ym maes peirianneg awyrenegol. Mae’n waith caled ond gallai’r rheini sy’n llwyddo i gwblhau’r rhaglen tair blynedd weld eu hunain ar lwybr cyflym i gael rôl rheoli gyda ni, yn union fel ein huwch reolwyr presennol a ddechreuodd, lawer ohonynt, fel prentisiaid.

Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Swyddi gyntaf yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd ar 4 Chwefror 2013.

NODIADAU I OLYGYDDION:

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Tîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru: Sahar Rehman (020 7270 1362)

Yr Adran Gwaith a Phensiynau: Ann Rimell neu Steve Milne (029 2058 6098/6097)

*Mae’r Rhaglen Waith yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i hawlwyr sydd angen mwy o help i chwilio am waith yn ddygn ac yn effeithiol. Mae cyfranogwyr yn cael cefnogaeth i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Fe’i cyflwynir gan ddarparwyr gwasanaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gontract ac maent yn cael rhwydd hynt i benderfynu sut orau i gefnogi cyfranogwyr, gan gyrraedd eu safonau cyflwyno gwasanaeth gofynnol hefyd.

*Mae’r Cytundeb Ieuenctid yn becyn cefnogaeth gwerth bron i £1biliwn i helpu pobl ifanc ddi-waith i baratoi ar gyfer gwaith a dod o hyd i swydd. Dros dair blynedd o fis Ebrill 2012 ymlaen, bydd y Contract Ieuenctid yn darparu bron i hanner miliwn o gyfleoedd newydd i bobl ifanc ac yn gwella mesurau Cael Prydain i Weithio gyda mwy o ffocws ar bobl ifanc.

Cyhoeddwyd ar 12 July 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 July 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.