Datganiad i'r wasg

Arbedwch hyd at £2,000 y flwyddyn ar gostau gofal plant ar gyfer eich dechreuwr ysgol newydd

Mae rhieni’n cael eu hatgoffa sut y gallant arbed miloedd ar gost gofal plant gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

  • Gall teuluoedd sy’n gweithio sy’n anfon eu plentyn i’r ysgol am y tro cyntaf ym mis Medi arbed hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn ar eu biliau gofal plant
  • Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn hyblyg i dalu am warchodwyr plant, gofal cofleidiol a gofal plant yn ystod y gwyliau
  • Cefnogi ymdrech y Llywodraeth i ddatblygu’r economi a chyflawni’r Cynllun Newid

Gall cannoedd o filoedd o deuluoedd a ddarganfuodd yn ddiweddar lle ysgol gynradd eu plentyn ym mis Medi ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i arbed miloedd ar gostau gofal plant a chlwbiau gwyliau, meddai Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Bydd llawer o deuluoedd sy’n gweithio nawr yn trefnu gofal plant ar gyfer dechrau a diwedd y diwrnod ysgol, a gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth gallant gael cymorth ariannol o hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn, neu £4,000 os yw eu plentyn yn anabl, tuag at y gost.  

Ewch i GOV.UK i wirio cymhwystra a chofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Meddai Darren Jones, Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys:

Mae Cynllun Newid y llywodraeth yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl a gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gall teuluoedd sy’n gweithio arbed ar eu biliau gofal plant hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn neu £4,000 y flwyddyn os yw eu plentyn yn anabl. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i rieni fynd yn ôl i’r gwaith wrth i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach i dyfu’r economi.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid: 

Gall dechrau’r ysgol fod yn amser drud, mae llawer i’w brynu ac mae yna lawer i’w drefnu hefyd. Nawr eich bod chi’n gwybod ble mae’ch plentyn yn mynd i’r ysgol, gallwch ddechrau trefnu’ch gofal plant a gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth helpu i wneud y costau’n fwy rheoladwy. Cofrestrwch i ddechrau cynilo heddiw ar GOV.UK.

Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i dalu am unrhyw ofal plant cymeradwy fel y gall rhieni drefnu eu gofal plant i weddu iddyn nhw - boed hynny’n gofal cofleidiol, gwarchodwr plant, clybiau ar ôl ysgol neu ofal gwyliau ysgol.

Gall rhieni ddefnyddio’r cynllun i dalu am ofal plant i blant 11 oed neu iau, neu hyd at 16 os oes gan y plentyn anabledd.

Am bob £8 sy’n cael ei rhoi mewn cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae’r llywodraeth yn ychwanegu £2 ati, sy’n golygu bod rhieni’n gallu cael hyd at £500 (neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl) bob 3 mis i’w ddefnyddio i dalu am eu costau gofal plant.

Ar ôl agor cyfrif, gall rhieni talu arian i mewn i gyfrif a’i ddefnyddio ar unwaith neu ei gadw yn y cyfrif i’w ddefnyddio pryd bynnag y bydd ei angen. Gall unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio gael ei dynnu o’r cyfrif ar unrhyw adeg.   

Mae Cynllun Newid y llywodraeth yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl a gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gall teuluoedd sy’n gweithio arbed ar eu biliau gofal plant hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn neu £4,000 y flwyddyn os yw eu plentyn yn anabl.

Gall teuluoedd fod yn gymwys ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn wir:   

  • mae ganddynt blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maent yn stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os oes gan y plentyn anabledd, maent yn cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed   
  • mae’r rhiant a’i bartner (os oes un) yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd   
  • nid ydynt yn ennill dros £100,000 y flwyddyn yr un   
  • nid ydynt yn cael Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant    

Mae rhestr lawn o’r meini prawf cymhwystra ar gael ar GOV.UK.   

Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ochr yn ochr â’r oriau gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn amodol ar gymhwystra.

Rhagor o wybodaeth

Rhyddhawyd yr ystadegau Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth diweddaraf gyda data sydd ar gael hyd at fis Rhagfyr 2024 ym mis Chwefror. 

Rhagor o wybodaeth am y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a sut i gofrestru. 

Mae’n rhaid i bob plentyn cymwys fod â chyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ei hun. Os oes gan deuluoedd fwy nag un plentyn cymwys, bydd angen iddynt gofrestru cyfrif ar gyfer pob plentyn. Yna, bydd y taliad atodol gan y llywodraeth yn cael ei ychwanegu at y taliadau a wnaed ar gyfer pob plentyn, ac nid ar gyfer yr aelwyd.   

Mae’n rhaid i ddeiliaid cyfrifon gadarnhau bod eu manylion yn gyfredol bob tri mis er mwyn parhau i gael y taliad atodol gan y llywodraeth.   

Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant drwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr drwy’r cynllun.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mai 2025