Datganiad i'r wasg

Peidiwch â cholli tric, arbedwch hyd at £2,000 y flwyddyn ar gostau gofal plant

Gall teuluoedd sy’n gweithio arbed hyd at £2,000 y flwyddyn ar eu biliau gofal plant gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Mae tymor yr Hydref wedi ein cyrraedd a gyda gwyliau ysgol mis Hydref rownd y gornel, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa teuluoedd sy’n gweithio i roi trît i’w cyllideb gofal plant y Calan Gaeaf hwn drwy agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Gall rhieni ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu gyda chostau gofal plant ar gyfer clybiau gwyliau ysgol, clybiau brecwast neu glybiau ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant neu feithrinfeydd. Mae’n rhoi i deuluoedd sy’n gweithio, hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn ar eu biliau gofal plant ar gyfer plant hyd at 11 oed, neu £4,000 y flwyddyn hyd at 16 oed os oes gan eu plentyn anabledd.

Am bob £8 sy’n cael ei dalu i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, bydd teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 gan y Llywodraeth yn awtomatig. Wrth ddefnyddio’r taliad atodol sy’n rhydd o dreth, mae teuluoedd yn gallu arbed hyd at £500 bob 3 mis fesul plentyn neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl. 

Mae agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn gyflym ac yn hawdd ac mae’n bosibl gwneud hynny unrhyw adeg o’r flwyddyn. Dylai’r teuluoedd hynny nad ydynt wedi cofrestru hyd yma wirio’u cymhwystra a gwneud cais ar-lein heddiw.

Mae’n cymryd tua 20 munud i agor cyfrif a gallwch dalu arian i mewn ar unrhyw adeg. Gallwch ddefnyddio’r arian ar unwaith neu ei adael yn y cyfrif a’i ddefnyddio bryd bynnag y bydd ei angen. Gallwch godi unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio, ar unrhyw adeg.   

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid: 

Mae angen digon o opsiynau gofal plant ar deuluoedd pan fydd y tywydd yn troi’n oer ac yn wlyb a’r dyddiau’n mynd yn fyrrach. Rydym yn annog rhieni wneud yn siŵr eu bod yn manteisio ar bob cyfle sydd ar gael - boed yn anfon eu plentyn i glwb ysgol cofleidiol neu glwb gwyliau yn ystod gwyliau hanner tymor. Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn darparu help ariannol sy’n addas i’ch teulu chi - i gefnogi’ch anghenion gofal plant ac i arbed arian i chi. Chwiliwch am ‘Tax Free Childcare’ ar GOV.UK i ddysgu rhagor.

Gall teuluoedd cymwys sy’n gweithio gofrestru ar gyfer cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth heddiw ar GOV.UK.

Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i ddysgu pa gymorth sydd ar gael ar gyfer costau byw, gan gynnwys help gyda chostau gofal plant.   

Mae dyddiadau tymor ysgolion yn amrywio ar draws y DU. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar GOV.UK.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r Llywodraeth hon yn cyflwyno’r buddsoddiad unigol mwyaf erioed mewn gofal plant yn Lloegr. Mae hyn yn ehangu 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim i rieni sy’n gweithio ac yn rhoi cymorth i blant naw mis oed hyd at adeg ddechrau’r ysgol. Bydd hyn yn arbed hyd at £6,500 y flwyddyn ar gyfartaledd i rieni cymwys sy’n gweithio. Gall rhieni ymweld â’r wefan Dewisiadau Gofal Plant i gael gwybod am yr ystod o gymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth gyda chostau gofal plant: https://www.childcarechoices.gov.uk/cymraeg/

Gallai rhieni a gofalwyr fod yn gymwys ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn wir:

  • mae ganddynt blentyn neu blant hyd at 11 oed. Maent yn stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os yw’r plentyn yn anabl, gallent gael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed
  • maent yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos, ar gyfartaledd
  • maent yn ennill dim mwy na £100,000 y flwyddyn yr un
  • nid ydynt yn cael credydau treth, Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant

Mae’n rhaid i bob plentyn cymwys fod â chyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ei hun. Os oes gan deuluoedd fwy nag un plentyn cymwys, bydd angen iddynt gofrestru cyfrif ar gyfer pob plentyn. Yna, bydd y taliad atodol gan y llywodraeth yn cael ei ychwanegu at y taliadau a wnaed ar gyfer pob plentyn, ac nid ar gyfer yr aelwyd.

Mae’n rhaid i ddeiliaid cyfrifon gadarnhau bod eu manylion yn gyfredol bob tri mis er mwyn parhau i gael y taliad atodol gan y llywodraeth.

Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant drwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr drwy’r cynllun.

Cyhoeddwyd ar 10 October 2023