Datganiad i'r wasg

Pen-blwydd S4C yn 30 yn garreg filltir bwysig i ddarlledu Cymraeg

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb wedi llongyfarch S4C heddiw (29 Hydref) wrth i’r sianel…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb wedi llongyfarch S4C heddiw (29 Hydref) wrth i’r sianel ddathlu 30 mlynedd o ddarlledu Cymraeg o ansawdd uchel.

Dywedodd David Jones , Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Rydyn ni fel Llywodraeth wedi pwysleisio ein hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu Cymraeg annibynnol a chryf droeon. Mae’r cytundeb rhwng awdurdod S4C a’r BBC ynghylch dyfodol a chyllid S4C tan 2017 yn rhoi’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd sydd eu hangen ar y darlledwr i fynd o nerth i nerth.

“Carwn longyfarch y Prif Weithredwr, Ian Jones, a phob un aelod o staff, sy’n gweithio ag ymroddiad diflino i arddangos talentau a galluoedd diwydiant creadigol Cymru. Pob dymuniad da ar gyfer y 30 mlynedd nesaf a mwy.”

Dywedodd Mr Crabb:

“Mae pen-blwydd S4C yn 30 yn garreg filltir bwysig - nid yn unig i ddarlledu Cymraeg - ond i’r sector darlledu yn ei gyfanrwydd.

“Yn ystod ei hoes mae’r sianel wedi chwarae rhan hollbwysig ym mywydau cynifer o bobl yng Nghymru. Mae wedi ennill llawer o glod yn rhyngwladol, yn fwyaf penodol gwobr teledu fwyaf mawreddog y byd, y Golden Rose d’Or am ei drama boblogaidd Con Passionate.

“Mae cyfraniad y sianel i sector diwydiant creadigol Cymru, i’r economi ac i hybu’r Gymraeg dros y 30 mlynedd diwethaf yn sylweddol iawn.”

Yn ystod yr wythnos o ddathliadau pen-blwydd rhwng 29 Hydref a 2 Tachwedd - bydd gwylwyr yn cael penderfynu pa raglenni a ddangosir ar y sianel. Bydd y rhaglenni mwyaf poblogaidd yn cael eu cyhoeddi’n fyw ar Heno.

Cyhoeddwyd ar 1 November 2012