Stori newyddion

Penodiadau Newydd S4C

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi penodi Owen Derbyshire, Anita George a Rhodri Williams yn aelodau o Awdurdod S4C am bedair blynedd, i gychwyn 2 Gorffennaf 2018.

Owen Derbyshire

Owen Derbyshire ydy sylfaenydd a Phrif Weithredwr Properr Software ac mae hefyd yn Brif Ymgynghorydd gyda Twenty One Group. Mae ei rolau fel cyfarwyddwr anweithredol yn cynnwys y grŵp menter ieuenctid Promo Cymru a’r cwmni technoleg Solviq. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru a Bwrdd Technoleg y Gymraeg.

Anita George

Mae Anita George yn gyd-sylfaenydd Partneriaeth Hillcrest, cwmni ymgynghori annibynnol sy’n darparu gwasanaethau llywodraethu corfforaethol i’r sector gwasanaethau ariannol a busnesau teuluol. Mae’n gyfreithiwr sydd wedi gweithio mewn sawl sector yn y Deyrnas Unedig a Hong Kong, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Materion Cyfreithiol gyda Kerogen Capital. Mae’n un o Ymddiriedolwyr Sefydliad y Teulu Ashley ac Ymddiriedolaeth Academi Westside. Mae hefyd yn gyn-aelod o fwrdd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Rhodri Williams

Yn ddiweddar, gadawodd Rhodri Williams ei swydd fel Cyfarwyddwr Cymru Ofcom, swydd yr oedd wedi’i chyflawni ers 1 Ionawr 2004. Dyma ei swyddi anweithredol presennol: Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ffilm Annibynnol Gwent, Aelod o Fwrdd Rhaglen Band Eang y Genhedlaeth Nesaf Llywodraeth Cymru, ac Aelod o Fwrdd Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Bu hefyd yn Aelod ac yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1997-2004).

Mae’r rolau’n derbyn tâl o £9,650 y flwyddyn. Mae’r penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus. Mae’r broses benodi’n cael ei rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. O dan y Cod, rhaid datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol sylweddol a gyflawnwyd gan benodai yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn unol â’r diffiniad, mae hyn yn cynnwys dal swydd, siarad yn gyhoeddus, rhoi rhodd cofnodadwy, neu bod yn ymgeisydd mewn etholiad.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae S4C yn cyflawni rôl allweddol yn ffabrig diwydiant darlledu creadigol a deinamig y Deyrnas Unedig, diwydiant sy’n datblygu’n gyflym. Mae gan y sianel hefyd rôl hynod o arwyddocaol yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.

“Mae’r ffaith bod yr adolygiad annibynnol wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar ac y bydd pencadlys y sianel yn symud i safle Yr Egin yng Nghaerfyrddin maes o law yn siŵr o ail-sbarduno’r darlledwr, gan roi’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd y mae’r sianel ei angen i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol.

“Bydd dod ag Anita, Owen a Rhodri i’r Bwrdd yn cryfhau gallu S4C i fanteisio ar y cyfleoedd newydd sydd o’n blaenau. Maent yn arweinwyr yn eu meysydd a bydd eu harbenigedd, eu profiad a’u safbwyntiau ffres yn cryfhau’r Bwrdd ymhellach ar y cam pwysig a chyffrous hwn yn hanes y sianel.”

Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones:

“Mae’r tri aelod newydd yn berchen ar ystod eang o brofiad a sgiliau fydd yn berthnasol iawn i waith S4C yn y blynyddoedd sy’n dod. Rwy’n falch iawn o’u croesawu i Fwrdd yr Awdurdod.”

Cyhoeddwyd ar 16 July 2018