Datganiad i'r wasg

Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru yn annog ymddiriedolwyr i roi £12 miliwn o arian elusennol segur i waith

Mae'r Comisiwn Elusennau a Sefydliad Cymunedol Cymru yn galw ar ymddiriedolwyr i estyn allan am gefnogaeth i ddatgloi asedau segur.

Welsh flag

Mae’r Comisiwn Elusennau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi lansio Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yng Nghymru i ddatgloi hyd at £12 miliwn o gronfeydd elusennol segur yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn annog ymddiriedolwyr elusennau segur i ddod ymlaen am gymorth i roi eu cronfeydd elusennol i ddefnydd da.

Bydd y Comisiwn Elusennau a Sefydliad Cymunedol Cymru yn cefnogi ymddiriedolwyr i ryddhau cronfeydd segur, gan ail-ddosbarthu’r rhain at achosion da ar draws y wlad drwy Sefydliad Cymunedol Cymru. Fel arall, bydd y Comisiwn yn cefnogi ymddiriedolwyr i roi bywyd newydd i’r elusen, er enghraifft drwy newid eu pwrpas elusennol.

Dylai ymddiriedolwyr elusen sy’n ei chael hi’n anodd recriwtio ymddiriedolwyr newydd, defnyddio incwm neu asedau’r elusen, nodi buddiolwyr, neu ddod o hyd i amser i redeg yr elusen gysylltu â’r tîm Adfywio Ymddiriedolaethau am gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys elusennau sydd heb wario unrhyw arian yn y pum mlynedd ddiwethaf, neu sydd wedi gwario llai na 30% o’i hincwm yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae’n bosib bod ymddiriedolwyr eisoes wedi derbyn llythyr gan y Comisiwn yn eu hannog i ofyn am gymorth i wario arian segur. Mae’r rhaglen yn annog pob ymddiriedolwr i ystyried a allai rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau helpu eu helusen i wireddu ei photensial.

Yn ôl Tracy Howarth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwaith Achos yn y Comisiwn Elusennau:

Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, yn dilyn y pandemig ac yn ystod argyfwng costau byw, mae’n bwysicach nag erioed bod cronfeydd elusennol yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial, i helpu gwella bywydau ac i gryfhau cymunedau.

Rydym yn gwybod fod gan ymddiriedolwyr y bwriadau gorau, ond weithiau mae’n anoddach trawsnewid y momentwm hwn i weithredu yn y tymor hir, neu mae elusennau’n gweld eu bod wedi rhedeg eu cwrs. Drwy Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru, rydym am helpu ymddiriedolwyr i roi’r arian sy’n cael ei godi i ddefnydd da, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Os ydych chi’n meddwl y gallai eich elusen chi elwa o gefnogaeth i wario ei chronfeydd, cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu i gyfrifo’r camau nesaf gorau i’ch elusen.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

Rydym yn sylweddoli y gallai derbyn llythyr gan y rheoleiddiwr elusennau achosi pryder i ymddiriedolwyr, ond dyma le gall Sefydliad Cymunedol Cymru helpu a chefnogi. Nid oes unrhyw reswm i hyn fod yn straen, gall fod yn brofiad cadarnhaol iawn i’r ymddiriedolwyr a’u cymuned. Gallwn helpu’r Ymddiriedolwyr i newid pwrpas elusennol yr ymddiriedolaeth neu trwy ryddhau arian segur a’u hailddosbarthu i gymunedau ledled Cymru. Rydym yn gwybod bod Ymddiriedolwyr yn poeni am gronfeydd segur. Gallwn eu helpu drwy’r rhaglen hon i sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith Elusennau a bod eu cymunedau yn elwa fel yr oedd bwriad gwreiddiol i’w cronfeydd.

Fel rhan o raglen Adfywio Ymddiriedolaethau, mae Sefydliad Cymunedol Cymru a’r Comisiwn Elusennau yn cefnogi Ymddiriedolwyr elusen T D Jones (Llanfair Clydogau), sy’n rheoli cronfa addysg ger Llanbedr Pont Steffan.

Cefnogwyd yr Ymddiriedolwyr i ehangu cwmpas y gronfa a’i throsglwyddo i Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’r arian hwn bellach yn cael ei roi at ddefnydd elusennol.

Dywedodd Paula Barker, Ymddiriedolwr T D Jones (Llanfair Clydogau):

Fel llawer o eglwysi pentref bach, mae cynulleidfa ein un ni wedi lleihau. Fel ysgrifennydd a warden yr eglwys, ymhlith y problemau niferus oedd swm o arian elusennol wedi ei adael i ddarparu llyfrau i blant yr ysgol Sul. Roedd y gwrthrychau wedi eu newid er mwyn caniatáu cymorth i blant yr ysgol leol, ond nid oedd ymddiriedolwyr yr elusen bellach mewn sefyllfa i weithredu ac nid oedd unrhyw arian wedi’i ddosbarthu.

Gyda rhywfaint o ryddhad y cawsom wybodaeth am Raglen Adfywio Ymddiriedolaethau. Roedd yn ymddangos yn eithaf brawychus i ddechrau a’r broblem gyntaf oedd olrhain y llofnodwyr cywir ar gyfer y gwaith papur. Fodd bynnag, fe wnaeth Laura Cameron Long, Rheolwr y Rhaglen yn UKCF, fy arwain drwy bob cam o’r ffordd. Profwyd nad oedd anhawster o gwbl ac fe aeth yr holl broses o drosglwyddo’r arian i Sefydliad Cymunedol Cymru heb broblem.

Yr agwedd fwyaf foddhaol o hyn yw bod yr arian bellach o gymorth gwirioneddol lle bo angen ac rydym yn teimlo’n sicr y byddai’r rhoddwr gwreiddiol yn cymeradwyo hynny.

Mae Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru yn dilyn llwyddiant ymgyrch debyg yn Lloegr, lle mae bron i £80 miliwn wedi cael ei ailddosbarthu i brosiectau lleol, er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddo i gael y budd cyhoeddus mwyaf posib.

ENDS

Nodiadau i Olygyddion

  1. Y Comisiwn Elusennau yw’r adran annibynnol, llywodraeth anweinidogol sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei bwrpas yw sicrhau bod elusen yn gallu ffynnu ac ysbrydoli ymddiriedaeth fel y gall pobl wella bywydau a chryfhau cymdeithas.
  2. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ysbrydoli pobl i roi, yn helpu cymunedau Cymru i ffynnu ac i newid bywydau gyda’i gilydd. Ers dros ugain mlynedd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gydag arian i gryfhau cymunedau ar draws Cymru. Drwy gydweithio gyda’n rhoddwyr a’n partneriaid, rydym yn defnyddio ein gwybodaeth arbenigol am anghenion cymunedau yng Nghymru i ddod o hyd i brosiectau sy’n creu newid cadarnhaol a’u hariannu.
  3. Mae mwy o wybodaeth am Raglen Adfywio Ymddiriedolaethau ar gov.uk.
Cyhoeddwyd ar 26 July 2022