Stori newyddion

Ymateb i’r datganiad ynghylch gorsafoedd gwylwyr y glannau

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi croesawu cynigion sydd wedi’u diweddaru gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) i gadw gorsafoedd gwylwyr…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi croesawu cynigion sydd wedi’u diweddaru gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) i gadw gorsafoedd gwylwyr y glannau yn Aberdaugleddau a Chaergybi.

Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n croesawu’r cynigion moderneiddio sydd wedi’u diweddaru heddiw, sy’n golygu cadw gorsafoedd gwylwyr y glannau yn Aberdaugleddau a Chaergybi.

“Ar ol yr ymgynghoriad a lansiwyd gan yr Adran Drafnidiaeth ym mis Rhagfyr 2010, ynghylch cynigion moderneiddio, mae’r Llywodraeth wedi gwrando’n astud ar bryderon y bobl leol a’r grwpiau sydd a diddordeb ledled Cymru, ac wedi cymryd camau i newid y cynigion yn unol a hynny er mwyn cadw’r ddwy orsaf hynny. 

“Serch hynny, rydyn ni’n gwerthfawrogi y bydd pobl Abertawe’n siomedig oherwydd bod y cynigion sydd wedi’u diweddaru yn cynnig cau’r orsaf sydd yno. Bydd y Llywodraeth yn ystyried unrhyw sylwadau eraill ynghylch cau Abertawe yn ofalus cyn y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud, ar ol y cyfnod ymgynghori newydd o 12 wythnos.” 

Ychwanegodd Mr Jones: “O’r un ar ddeg o orsafoedd gwylwyr y glannau arfaethedig a fydd ar ol, bydd dwy ohonyn nhw yng Nghymru o hyd. Dyma ffordd synhwyrol ymlaen a bydd yn helpu i ddiogelu ein gwasanaeth gwylwyr y glannau cenedlaethol er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn addas i’r diben yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 14 July 2011