Neges dydd y cofio gan ysgrifennydd gwladol Cymru, Stephen Crabb AS
Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn talu teyrnged gyda neges Sul y Cofio
Y Sul y Cofio hwn, rydyn ni’n nodi can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Collodd deugain mil o Gymry eu bywydau rhwng 1914 ac 1918, a rhaid i ni beidio byth ag anghofio’r aberth enfawr a wnaeth y dynion a’r menywod hynny i ddiogelu ein rhyddid.
Mae’r teyrngedau sy’n cael eu rhoi ledled Cymru heddiw’n dangos ein bod yn ddiolchgar iawn am yr aberth a wnaethon nhw a’r rheini mewn gwrthdaro diweddarach.
Yn ogystal â chofio am bawb a wasanaethodd yn y ddau ryfel byd, eleni, byddaf hefyd yn meddwl am y dynion a’r menywod o Gymru sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar ar ôl gwasanaethu yn yr ymgyrch tair blynedd ar ddeg i fynd i’r afael â therfysgaeth yn Afghanistan.
Rwy’n diolch am iddyn nhw ddychwelyd adref yn ddiogel, ac yn anrhydeddu cof y rheini, yn drist iawn, a gollodd eu bywydau. Mae heddiw hefyd yn amser i feddwl am y gwrthdaro sy’n digwydd ar hyn o bryd, a chofio am y rheini sy’n dal i amddiffyn ein gwerthoedd ar draws y byd.