Stori newyddion

Mae cymorth rhanbarthol a lleol ar gael i’r rhai sy'n eu cynrychioli eu hunain yn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr

Mae’r grant LSLIP (cymorth cyfreithiol i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain) gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn werth £3.1 miliwn, ac mae wedi sefydlu partneriaethau mewn wyth ardal.

Woman holding a briefcase

Mae’r grant LSLIP yn weithredol, ac mae’n ariannu 11 o brosiectau mewn mwy na 50 o sefydliadau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i helpu pobl i ganfod problemau cyn gynted â phosibl, er mwyn eu hatal rhag gwaethygu, ac i gefnogi pobl pan fo angen iddynt fynd i’r llys.

Mae wyth partneriaeth ranbarthol a lleol yn gweithio gyda’i gilydd i rannu gwybodaeth, rhwydweithio a meithrin arbenigedd, sydd i gyd yn hanfodol er mwyn canfod anghenion sy’n dod i’r amlwg ac er mwyn diwallu’r rheini yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae hyn hefyd wedi galluogi sefydliadau sy’n cael eu hariannu i fod yn fwy hyblyg wrth iddynt ymateb i bandemig COVID-19. Mae’r dull hwn yn helpu i adeiladu ar y data sydd ar gael am bobl sy’n cynrychioli eu hunain yn y llysoedd ac yn llywio polisi yn y dyfodol.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ariannu pum partneriaeth leol yn Dorset a De Gwlad yr Haf; Swydd Derby, Coventry a Birmingham; Swydd Gaerhirfryn a Manceinion Fwyaf; Gogledd Swydd Efrog a Kirklees; a Swydd Suffok, Norfolk a Gogledd Essex, ynghyd â thair partneriaeth ranbarthol yn Nyfnaint a Chernyw; Gogledd-ddwyrain Lloegr; a Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae ychydig dan £2 filiwn o gyllid wedi cael ei ddyfarnu i’r wyth partneriaeth dros ddwy flynedd.

Mae partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru, dan arweiniad Cyngor ar Bopeth Ynys Môn, yn cynnwys wyth cangen leol o Cyngor ar Bopeth ynghyd ag Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor. Mae’r bartneriaeth yn cyflawni dau brosiect. Y cyntaf yw cynyddu capasiti gweithwyr achos ac ehangu’r cymorth y gallant eu ddarparu yn y rhanbarth ar gyfer materion cyflogaeth, teulu a chymuned. Yr ail yw creu perthynas weithio ehangach gydag Ysgol y Gyfraith.

Mae’r ddau brosiect gyda’i gilydd yn helpu’r bartneriaeth i sicrhau bod mwy o gyngor cyfreithiol cynhwysfawr ar gael i bobl sy’n eu cynrychioli eu hunain, ac maent hefyd yn creu cangen newydd o gwricwlwm i Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor fel y gall y myfyrwyr gael mwy o brofiad gan fod galw mawr am hwnnw, ac i gynyddu eu cyflogadwyedd ar ôl iddynt raddio.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, yr Arglwydd Wolfson QC:

Rwy’n falch o’r cynnydd mawr sy’n cael ei wneud ar draws y grant LSLIP, ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr holl bartneriaethau rhanbarthol a lleol yn parhau i ddarparu arweiniad a chyngor hollbwysig i bobl sy’n agored i niwed yn eu hardaloedd.

Mae’r dull cydweithredol yn rhywbeth i’w ddathlu, ac rwy’n falch o’r camau breision sy’n cael eu cymryd gan bartneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru. Mae’r arweinyddiaeth sy’n cael ei darparu gan Gyngor ar Bopeth Ynys Môn, Prifysgol Bangor a’r saith partner arall yn yr ardal yn gosod esiampl ragorol o’r modd y gall cydweithio ar draws y trydydd sector a’r tu hwnt fod yn fuddiol i gymunedau.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth Ynys Môn, Jackie Blackwell:

Mae Partneriaeth LSLIP Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cyfuno Cyngor ar Bopeth Ynys Môn a saith canolfan Cyngor ar Bopeth arall ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor i ddarparu gwasanaethau pro bono ychwanegol ledled y rhanbarth. Mae’r rhaglen wedi rhoi cyfle enfawr i ni gynyddu’r capasiti a’r mynediad at gyfraith lles cymdeithasol i bobl sy’n eu cynrychioli eu hunain, a hynny drwy waith partneriaethol ar y cyd â’r sector preifat a’r trydydd sector.

Hefyd, rydym wedi cynyddu’r gwasanaethau a ddarparwn drwy raglen hyfforddi gyda myfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, gan ddarparu cymhorthfa gyfreithiol rithiol. Mae hyn yn ein galluogi i gynyddu’r mynediad at gyngor cyfreithiol i bobl sydd ei angen, yn ogystal â chanfod rhagor o fylchau yn y ddarpariaeth. Mae’r gwaith ymchwil a gwerthuso a wneir drwy’r bartneriaeth, sy’n cael eu ddarparu gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a’n staff ni sy’n cael eu hariannu gan LSLIP, yn golygu ein bod yn gallu dangos yr effaith y mae ein gwaith yn ei chael ar ein cleientiaid ac ar ddarparu cyngor yn y rhanbarth.

Dywedodd Prif Weithredwr Interim y Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder, Clare Carter:

Mae’r partneriaethau lleol a rhanbarthol a ffurfiwyd drwy grant LSLIP gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi bod yn hanfodol i gynyddu’r cydweithio rhwng gwasanaethau cyfagos er mwyn gwella’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n eu cynrychioli eu hunain.

Rydym yn falch o weld bod cynnydd eisoes wedi bod yn nifer y bobl sy’n eu cynrychioli eu hunain ac sy’n cael cymorth drwy’r ddarpariaeth LSLIP, a byddwn ni’n parhau i weithio’n agos â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a defnyddwyr ein grantiau i ddatblygu rhagor ar y prosiectau pwysig hyn fel y gall mwy fyth o bobl yng Nghymru a Lloegr gael mynediad at y cyngor a’r cymorth cyfreithiol sydd eu hangen arnynt.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2021