Lord (David) Wolfson of Tredegar KC

Bywgraffiad

Penodwyd yr Arglwydd (David) Wolfson o Dredegar CF yn weinidog yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar 22 Rhagfyr 2020.

Addysg

Cafodd David ei eni yn Lerpwl yn 1968. Mynychodd Ysgol Uwchradd King David yn Lerpwl ac yna treuliodd flwyddyn yn Yeshiva HaKotel yn Jerwsalem. Astudiodd David Astudiaethau Dwyreiniol a’r Gyfraith yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt, gan raddio yn 1991.

Aeth David i Ysgol y Gyfraith Inns of Court, lle dyfarnwyd Ysgoloriaeth Inns of Court iddo, yn ogystal ag Ysgoloriaeth Fawr gan yr Inner Temple. Cafodd David ei alw i’r Bar yn Inner Temple ym mis Hydref 1992, lle mae bellach yn Feinciwr.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Bu David yn gweithio mewn cyfraith fasnachol, o Siambrau yn One Essex Court, Temple.

Cafodd David ei gyfarwyddo mewn llawer o’r prif anghydfodau bancio a masnachol dros y blynyddoedd diwethaf, ac ymestynnodd ei ymarfer dros ystod eang o gyfraith fasnachol, mewn ymgyfreitha a chyflafareddu rhyngwladol. Roedd David hefyd yn gweithredu fel cyflafareddwr mewn anghydfodau domestig a rhyngwladol.

Cyn ymuno â’r Llywodraeth, enillodd David “Commercial Litigation Silk of the Year 2020” gan The Legal 500, a “Commercial Litigation Silk of the Year” yn y Chambers UK Bar Awards 2020.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth