Datganiad i'r wasg

Diwygiadau i roi hwb i seilwaith digidol Cymru

Guto Bebb: Mae'r daith i drawsnewidiad digidol ar droed i bob cymuned yng Nghymru

Cyn bo hir, bydd pobl mewn ardaloedd o Gymru a gweddill y DU sydd â darpariaeth symudol wael yn cael hwb sylweddol i’w cysylltiadau yn sgil camau gweithredu Llywodraeth y DU i gyflymu’r gwaith o gyflwyno gwasanaethau symudol a band eang.

Bydd y diwygiadau i hen ddeddfwriaeth a wnaed heddiw yn lleihau costau lletya mastiau ffôn a seilwaith cyfathrebu arall ar dir preifat. Mae hyn yn lledu’r ffordd i wasanaethau symudol a band eang cyflymach a mwy dibynadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Bydd y newidiadau i God Cyfathrebiadau Electronig y DU yn:

  • lleihau’r rhent mae gweithredwyr telegyfathrebiadau yn ei dalu i berchnogion tir i osod cyfarpar, er mwyn ei fod yn debycach i’r rhent ar gyfer darparwyr cyfleustodau, fel nwy a dŵr;
  • ei gwneud yn haws i weithredwyr uwchraddio a rhannu eu cyfarpar â gweithredwyr eraill er mwyn helpu i gynyddu darpariaeth;
  • ei gwneud yn haws i weithredwyr telegyfathrebiadau a pherchnogion tir ddatrys anghydfodau cyfreithiol.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru:

Rydw i’n croesawu’r newidiadau sydd wedi cael eu gwneud heddiw, gan eu bod yn galluogi ardaloedd gwledig Cymru i gyd-fynd â’r trawsnewidiad digidol sy’n digwydd ledled y DU.

Mae gwasanaethau symudol a band eang cyflymach yn ceisio bod o fudd i bawb; o fusnesau lleol sydd am roi hwb i gynhyrchiant a chapasiti, i drigolion sy’n dymuno cael darpariaeth gyflym iawn barhaus.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflymu gwasanaethau ac i fuddsoddi mewn seilwaith cyfathrebu newydd, gan gryfhau economi Cymru. Yn sgil diwygiadau fel y rhain, mae’r daith i drawsnewidiad digidol ar droed i bob cymuned yng Nghymru, waeth pa mor wledig ydyn nhw.

Dywedodd Matt Hancock, y Gweinidog Gwladol dros Faterion Digidol:

Mae’r ffaith fod cynifer o bobl yn cael trafferth oherwydd cysylltiadau symudol a band eang gwael yn annerbyniol. Dyna pam ein bod yn gwella darpariaeth ar draws y DU.

Rydyn ni am i bawb elwa ar dwf gwasanaethau digidol. Bydd cael gwared ar y cyfyngiadau hen ffasiwn hyn yn helpu i hybu buddsoddiad mewn technolegau newydd fel 5G, ac yn rhoi mwy o ryddid i weithredwyr symudol wella eu rhwydwaith mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd.

Erbyn diwedd y flwyddyn, mae’n rhaid i bob gweithredwr symudol sicrhau darpariaeth i 90 y cant o’r DU, a bydd 95 y cant o bob cartref a busnes yn gallu cael band eang cyflym iawn. Ond mae mwy i’w wneud o hyd.

Bydd y diwygiadau hyn yn helpu i hybu buddsoddiad ac ysgogi’r gwaith parhaus o dyfu, cyflwyno a chynnal seilwaith technoleg cyfathrebu, rhan o economi’r DU sy’n dod yn fwyfwy pwysig.

Yn ôl Hamish MacLeod, Cyfarwyddwr Mobile UK:

Mae’r Cod Cyfathrebiadau Electronig yn ddarn pwysig o’r jig-so, ochr yn ochr â rhagor o ddiwygiadau cynllunio a fydd yn helpu gweithredwyr symudol i oresgyn yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth ehangu eu rhwydweithiau, gan ddatblygu gwasanaethau arloesol i gwsmeriaid ar yr un pryd.

Nid rhyw ddewis ychwanegol yw cysylltedd symudol da erbyn hyn. Mae’n seilwaith hanfodol, sydd wrth galon gweithgarwch economaidd modern fel y mae band eang, trydan a gwasanaethau hanfodol eraill.

Dywedodd Mark Talbot, Cadeirydd Bwrdd Fforwm Telegyfathrebiadau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS):

Mae RICS yn cydnabod y rôl hollbwysig mae seilwaith digidol modern, effeithlon a chyfartal yn ei chwarae yn natblygiad economi’r DU yn y dyfodol. Mae RICS wedi gweithio’n agos gyda’n cyd-weithwyr yn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon er mwyn gwneud yn siŵr bod y Cod newydd yn galluogi buddsoddiad yn ein seilwaith digidol cenedlaethol, gan gydbwyso anghenion y cyhoedd a pherchnogion eiddo preifat ar yr un pryd.

Mae llawer yn gweld rhyngrwyd cyflym fel y pedwerydd gwasanaeth cyfleustodau, felly mae’r cyhoedd a busnesau yn disgwyl gallu cael mynediad at wasanaethau digidol fel y mynnant, ac mae RICS yn credu bod y Cod diwygiedig yn gam gwych ymlaen tuag at y nod eithaf hwn.

Cafodd yr hen God Cyfathrebiadau Electronig ei roi ar waith yn 1984 yn wreiddiol, ond daeth yn amherthnasol wrth i dechnoleg ddatblygu, gan ei gwneud yn anodd i berchnogion tir a gweithredwyr rhwydwaith ddod i gytundeb a datrys anghydfodau pan oedd seilwaith digidol modern yn cael ei gyflwyno.

Diwygiodd y Llywodraeth y Cod drwy Ddeddf yr Economi Ddigidol, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill. Bydd y rheoliadau ategol a gyflwynwyd gerbron y Senedd heddiw yn dod â’r Cod newydd i rym. Disgwylir i hynny ddigwydd fis Rhagfyr 2017.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  1. Heddiw, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno rheoliadau drafft gerbron y Senedd. Mae angen y rhain i fwrw ymlaen â’r broses o ddiwygio’r Cod Cyfathrebiadau Electronig. Bydd y newidiadau yn helpu i sicrhau bod darparwyr rhwydwaith yn cyrraedd y targedau darpariaeth a chysylltedd a osodwyd gan y Llywodraeth er mwyn cyrraedd yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd yn y DU.
  2. Y Cod Cyfathrebiadau Electronig (y Cod) yw’r fframwaith deddfwriaethol sy’n galluogi darparwyr rhwydweithiau cyfathrebu electronig i sefydlu rhwydweithiau cyfathrebu electronig.
  3. Adolygwyd y Cod gan Gomisiwn y Gyfraith yn 2012, a argymhellodd ddiwygiadau, ac mae’r Llywodraeth wedi ymgynghori’n helaeth â phob rhanddeiliad cyn cyflwyno’r gwelliannau i’r ddeddfwriaeth.
  4. Am fwy o wybodaeth am ddiwygio’r Cod Cyfathrebiadau Electronig: * https://www.gov.uk/government/publications/government-publishes-proposals-for-a-new-electronic-communications-code * https://www.gov.uk/government/collections/digital-economy-bill-2016
Cyhoeddwyd ar 19 October 2017