Reeves yn mynd i’r afael â chostau byw ac yn cefnogi diwydiant Cymru yn y Gyllideb
Bydd teuluoedd yng Nghymru yn cael budd o Gyllideb i dorri costau byw, creu mwy o swyddi sgiliau uwch a buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, wrth i’r Canghellor ailgadarnhau ei hymrwymiad i yrru twf economaidd.
- Y Canghellor yn cyhoeddi cynnig teg i deuluoedd sy’n gweithio gan ddileu’r cap budd-dal dau blentyn, arbedion biliau ynni a rhewi’r dreth ar danwydd.
- Cefnogi diwydiant Cymru drwy fuddsoddiadau o Bort Talbot i Ynys Môn, gan greu swyddi a thyfu’r economi yng Nghymru.
- Gwasanaethau cyhoeddus yn derbyn hanner biliwn ychwanegol a mwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru, ar ben y setliad mwyaf mewn hanes datganoli.
Roedd Rachel Reeves yn cydnabod cyfraniad blynyddol Cymru o £93 biliwn i economi’r DU a’i gryfderau diwydiannol gyda buddsoddiadau yn y clwstwr lled-ddargludyddion M4, trosglwyddiad ynni gwyrdd Port Talbot ac Ynys Môn.
Er gwaethaf cyflogau’n tyfu mwy ym mlwyddyn gyntaf y llywodraeth hon nag yn ystod unrhyw bwynt yn y 2010au, roedd y Canghellor yn glir bod gormod o deuluoedd yn parhau i’w chael hi’n anodd gyda chostau byw a dyna pam bod y Gyllideb yn cynnwys ystod o fesurau i dorri biliau a rhoi hwb i becynnau cyflog.
Gan ddweud mai’r ffordd decaf i helpu pobl gyda chostau byw oedd torri chwyddiant a chynyddu cyflogau, cyhoeddodd Reeves arbediad o £150 mewn biliau ynni aelwydydd, rhewi treth tanwydd a chynyddu isafswm cyflog cenedlaethol a chyflog byw.
Cyhoeddodd y Canghellor y byddai’n dileu’r terfyn dau blentyn. Bydd 69,000 o blant yng Nghymru yn cael budd o’r newid hwn. Wedi’i ariannu drwy fynd i’r afael â thwyll lles a diwygiadau hir-ddisgwyliedig i’r cynllun Motability, bydd yn arwain at y gostyngiad mwyaf mewn tlodi plant mewn unrhyw Gyllideb yn y ganrif hon.
Bydd newidiadau i Fframwaith Gyllidol Llywodraeth Cymru yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru £425 miliwn ychwanegol o rym gwario dros y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o arian ar gael i helpu gyda chostau cynyddol, rhestrau aros a buddsoddi mewn cymunedau lleol.
Mae ymrwymiadau newydd y Changhellor yn y Gyllideb yn dilyn y newyddion y bydd bron i 6,500 o swyddi yn cael eu creu yng Ngogledd Cymru fydd yn cynnig llety i Adweithydd Modwlar Bach cyntaf Prydain a Pharth Twf Deallusrwydd Artiffisial.
Roedd y Gyllideb hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hariannu’n deg, gyda £505 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, drwy Fformiwla Barnett, ar ben y setliad mwyaf i Lywodraeth Cymru yn hanes datganoli, a gyflwynwyd gan y Canghellor yn yr Adolygiad Gwariant.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS:
Mae Llywodraeth y DU wedi darparu buddsoddiad cenedliadol ar draws Cymru - o niwclear newydd, i AI a rheilffyrdd. Mae’r Gyllideb hon yn adeiladu ar y gwaith hwnnw.
Mae arian newydd ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion yng Nghymru a thrawsnewid parhaus Port Talbot yn dangos ein bod yn buddsoddi yn nyfodol diwydiannol Cymru a’r swyddi medrus uwch a thwf a ddaw yn sgil hynny.
Bydd gan bobl ar draws Cymru fwy o arian yn eu pocedi o ganlyniad i’n negeseuon i helpu gyda chostau byw, cynnydd arall i’r isafswm cyflog a chyflog byw a dileu’r cap ar fudd-dal dau blentyn.
Unwaith eto, mae yna hwb sylweddol i Lywodraeth Cymru wario ar eu blaenoriaethau fel y GIG ac ysgolion ac rydym hefyd yn rhoi pwerau newydd iddynt fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Hefyd, cyhoeddodd Reeves ddiwygiadau i foderneiddio’r system dreth, gan ofyn i’r sawl â’r gallu i dderbyn cyfrifoldeb i gyfrannu mwy at ddiwygiadau teg hir-ddisgwyliedig.
Cefnogi diwydiant Cymru gyda biliynau o fuddsoddiad.
- Mae arbenigedd lled-ddargludyddion Cymru yn cael ei gydnabod gyda £10 miliwn o fuddsoddiad i gefnogi swyddi medrus iawn yn y clwstwr lled-ddargludyddion ar hyd yr M4. Bydd yr arian yn helpu busnesau bach a chanolig i dyfu.
- Bydd £4.2 miliwn pellach yn glanhau tir ‘llwyd’ llygredig gyferbyn y Porthladd Rhydd Celtaidd ym Mhort Talbot, i helpu i ddatgloi buddsoddiad pellach yn yr ardal. Mae hyn yn dilyn pecyn ehangach o gefnogaeth i Bort Talbot, gan gynnwys grant o £500 miliwn i Tata Steel ar gyfer cynhyrchu dur mwy gwyrdd, a buddsoddiad i gefnogi ffermydd gwynt arnofiol y môr.
- £25 miliwn ar gyfer Porthladd Ynys Môn yn dilyn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Cymru.
- Bydd £2.5 biliwn yn cefnogi Adweithydd Modwlar Bach Wylfa ar Ynys Môn, gan gefnogi hyd at 3,000 o swyddi da a chynhyrchu pŵer ar gyfer tair miliwn o gartrefi.
- Caiff Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial (AI) ei sefydlu yng Ngogledd Cymru gyda £5 miliwn o fuddsoddiad mewn mabwysiadu a sgiliau lleol, a gefnogir gan £5 miliwn o fuddsoddiad, gan greu 3,450 o swyddi.
- Bydd Parth Twf AI yn Ne Cymru yn creu mwy na 5,000 o swyddi newydd i gymunedau lleol dros y degawd nesaf.
- Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod potensial twf datblygiad Parkway Caerdydd. Felly, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector preifat i ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu a chyllido gorsaf i wasanaethu’r ardal gynted â phosibl gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU.
Mynd i’r afael â thlodi plant, costau byw anweithgarwch economaidd
Mae’r Gyllideb yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i deuluoedd yng Nghymru:
- Bydd 69,000 o blant yng Nghymru yn cael budd drwy ddileu’r terfyn dau blentyn.
- Torri biliau ynni gydag arbediad o £150 ar gyfartaledd i aelwydydd.
- Codi’r Cyflog Byw Cenedlaethol 4.1% a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 8.5%, gan adeiladu ar gynnydd Ebrill 2025 sydd eisoes wedi helpu 160,000 o weithwyr yng Nghymru.
- Cynyddu Lwfans Safon Credyd Cynhwysol 6.1%, y cynnydd termau real parhaol cyntaf erioed.
- Cynyddu’r Pensiwn Gwladol 4.8% o Ebrill 2026, gan godi incwm yn uniongyrchol i 700,000 o bensiynwyr yng Nghymru.
- Ymestyn y rhewi treth tanwydd, a thorri 5c, gan arbed £49 i yrwyr ceir ar gyfartaledd.
- Rhyddhau talent a chyfle gyda phecyn Gwarant Pobl Ifanc. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau y bydd pob unigolyn 18 i 21 oed cymwys sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol ac yn chwilio am waith ers 18 mis ym Mhrydain yn derbyn lleoliad gwaith â thâl chwe mis.
Cyllido gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn deg.
- Mae’r Gyllideb yn darparu £505 miliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru wario ar eu blaenoriaethau - fel addysg a mynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG - ar ben y setliad mwyaf mewn hanes datganoli, a ddarparwyd yn yr Adolygiad Gwariant.
- Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i dderbyn dros 20% yn fwy o gyllid fesul unigolyn na gwariant Llywodraeth DU cyfatebol yn Lloegr, uwchlaw ei angen o 115% a aseswyd yn annibynnol, sy’n adlewyrchu costau gwirioneddol darparu gwasanaethau ar draws daearyddiaeth amrywiol Cymru. Bydd newidiadau i Fframwaith Gyllidol Llywodraeth Cymru yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru £425 miliwn ychwanegol o rym gwario dros y blynyddoedd nesaf. Daw’r arian ychwanegol o derfynau benthyca cynyddol a mwy o hyblygrwydd o ran sut y gall Cymru reoli ei chyllideb - gan roi mwy o ddewisiadau i Lywodraeth Cymru gefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd ac i fuddsoddi mewn cymunedau ar draws Cymru.