Y DU yn dathlu unigolion o Gymru sydd wedi cael eu hanrhydeddu yn Rhestr Pen-blwydd y Brenin
Mae 84 o bobl o Gymru yn cael eu dathlu heddiw yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi'r Brenin 2026.
King's Birthday Honours 2026
Mae 84 o bobl o Gymru sydd wedi cyfrannu at eu cymunedau a’u gwlad yn cael eu dathlu heddiw yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi’r Brenin 2026.
Mae’r rheini sy’n cael eu hanrhydeddu yng Nghymru yn cynnwys: Julia Jones, o Ddyfed, a dderbyniodd BEM am wasanaethau i Gerddoriaeth ar ôl sefydlu Gŵyl Gerdd Llandeilo Fawr; a Karl Lester o Gonwy a dderbyniodd MBE am wasanaethau gwirfoddol i Achub Mynydd ac ers 2008, mae wedi cymryd rhan mewn dros 555 o ymgyrchoedd achub.
Mae cyfanswm o 1182 o unigolion yn cael eu hanrhydeddu eleni am eu llwyddiannau eithriadol, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydnabod y rheini sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Ymhlith y rheini sy’n cael eu hanrhydeddu eleni mae gofalwyr maeth ymroddgar, modelau rôl ym maes chwaraeon menywod, gweithwyr iechyd ymroddedig, hyrwyddwyr y celfyddydau, ac ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus.
Cynrychiolir pob rhan o’r DU ar y Rhestr, o Ynysoedd Gorllewin yr Alban i Gernyw.
Pobl o Gymru yw 5.6% o gyfanswm y rheini sy’n cael eu hanrhydeddu eleni.
Dywedodd Keir Starmer, y Prif Weinidog:
Ar draws y DU, mae pobl yn mynd ati’n dawel i newid bywydau a chryfhau eu cymunedau. Mae’r Rhestr Anrhydeddau hon yn gyfle i roi cydnabyddiaeth iddynt.
Mae eu hymroddiad yn dangos sut mae creu newid parhaol - drwy dosturi, gwytnwch ac ymrwymiad i eraill.
Mae’n ymgorfforiad o’r wlad barchus, obeithiol rydyn ni’n falch i fod yn rhan ohoni, ac ar ran y genedl gyfan, hoffwn ddiolch i chi.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Llongyfarchiadau i’r rheini sydd ar y rhestr o bobl anhygoel o bob cwr o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
Maent wedi derbyn clod am eu cyfraniadau i’w cymunedau, i chwaraeon, i elusennau, i’r celfyddydau ac i wella bywydau pobl eraill - gan roi eu hamser a’u hymdrech am ddim yn aml.
Mae gwaith yr unigolion ysbrydoledig hyn yn cael effaith enfawr drwy Gymru benbaladr ac rwy’n diolch i bob un ohonynt am eu cyfraniadau gwerthfawr i gymdeithas Cymru.
Gall unrhyw un enwebu rhywun am anrhydedd. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi cyflawni pethau gwych ac yn haeddu cydnabyddiaeth, ewch i https://www.gov.uk/honours i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gyflwyno eu henwau.
Dyma rai o’r bobl nodedig sydd wedi cael eu hanrhydeddu ledled Cymru:
-
Christina Roy, o Dde Morgannwg, a dderbyniodd BEM am wasanaethau i’r gymuned yng Nghaerdydd. Mae Roy yn eiriolwr diflino dros deuluoedd mewn angen yng Nghaerdydd, yn enwedig drwy’r Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays, sydd wedi helpu dros 50 o fenywod i gael gwaith ar ôl cwblhau cymwysterau.
-
David Cottle, o Abertawe, a dderbyniodd BEM am ei wasanaethau i Gerddoriaeth Jazz. Mae wedi bod yn ffigwr canolog yn sîn jazz byw Abertawe ers y 1970au, gan drefnu’r rhaglen wythnosol yng Nghlwb Jazz Abertawe ers y 1990au. Mae’r clwb bellach yn 76 oed ac yn denu dros 100 o fynychwyr bob wythnos.
-
Alys Cole-King, o Gonwy, a dderbyniodd MBE am wasanaethau i Atal Hunanladdiad a chwyldroi’r ymateb proffesiynol i argyfwng hunanladdiad drwy arloesi â dulliau gofal tosturiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
-
Gary Davies, o Forgannwg Ganol, a dderbyniodd MBE am ei wasanaethau i Ddiogelwch y Cyhoedd ar ôl neilltuo bron i bum degawd i wasanaeth cyhoeddus a lles cymunedol yng nghymunedau Ogwr a’r Rhondda, gan ddechrau ei yrfa gyda Heddlu De Cymru ym 1975.
- Gall unrhyw un enwebu rhywun am anrhydedd yma: https://www.gov.uk/honours
- Os hoffech chi gyfweld aelod o un o’r pwyllgorau anrhydeddau ynghylch cynyddu cynrychiolaeth o’ch ardal chi, cysylltwch â Swyddfa’r Cabinet yn pressoffice@cabinetoffice.gov.uk