Datganiad i'r wasg

Araith y Frenhines yn canolbwyntio ar economi gryfach a chymdeithas decach.

David Jones: “Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol hon yn ategu ein hymrwymiad i wella bywydau pobl yng Nghymru a ledled y DU.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wales Office

Wrth gyfeirio at raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf a gyhoeddwyd gan Ei Mawrhydi’r Frenhines heddiw (4 Mehefin 2014), dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:

Mae’r rhaglen a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines heddiw yn pwysleisio ymrwymiad y llywodraeth i’n cynllun economaidd tymor hir i adeiladu cymdeithas gryfach a thecach.

Ein tair blaenoriaeth ar gyfer pedwerydd tymor y rhaglen ddeddfwriaethol yw:

  • twf economaidd a lleihau’r diffyg

  • diwygio cymdeithasol

  • cyfiawnder ac atal troseddau

Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol yn cynnwys 11 Bil a 3 Bil drafft.

Mae hefyd yn cynnwys pum Bil sy’n trosglwyddo o’r sesiwn ddiwethaf, gan gynnwys Bil Cymru a fydd yn datganoli pwerau newydd ynglŷn â threthiant i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru.

Dywedodd David Jones AS:

Fel llywodraeth rydym ni wedi dangos nad oes gennym ofn gwneud penderfyniadau anodd o ran lleihau’r diffyg a thyfu’r economi.

Drwy gyflawni twf cynaliadwy a arweinir gan y sector preifat, byddwn yn parhau i adfer yr economi a oedd ar ei gliniau a etifeddwyd gennym.

Bydd ein pedwaredd raglen ddeddfwriaethol seneddol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth yn caniatáu i fusnesau bach gael gafael ar y cyllid y mae arnynt ei angen i dyfu ac i leihau biwrocratiaeth, gan wneud y DU yn lle mwy deniadol i gychwyn a datblygu busnes.

Bydd y Bil Treth Pensiynau a’r Bil Pensiynau Preifat yn ddatblygiad arloesol yn y farchnad pensiynau preifat, gan ddarparu mwy o ddewis i’r rheini sy’n arbed arian ar gyfer ymddeol a rhoi mwy o ryddid i unigolion o ran y ffordd y maent yn cael mynediad at fuddion eu pensiynau.

Bydd y Taliadau Gofal Plant yn helpu teuluoedd sy’n gweithio gyda chostau gofal plant. Bydd y Bil yn cyflwyno cynllun sy’n darparu cymorth i deuluoedd sy’n gweithio gyda chostau gofal plant cymwys, hyd at uchafswm o £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob plentyn.

Bydd y Bil Caethwasiaeth Fodern yn cryfhau’r pwerau sy’n bodoli i atal caethwasiaeth a masnachu pobl, gan wella’r gefnogaeth i ddioddefwyr y fath droseddau.

Bydd y Bil Troseddau Difrifol yn cryfhau pwerau’r heddlu i atal troseddau difrifol a throseddau trefnedig, yn ogystal â chyflwyno mwy o bwerau i fynd i’r afael ag esgeuluso plant.

Bydd y Bil Seilwaith yn gwarantu buddsoddiad tymor hir mewn seilwaith ac yn gwella cystadleurwydd economaidd.

Bydd y Bil Lluoedd Arfog (Cwyno am y Gwasanaeth a Chymorth Ariannol) yn gwella’r drefn gwyno yn y Lluoedd Arfog drwy greu ombwdsmon.

Mae’r Bil Gweithredu Cymdeithasol, Cyfrifoldeb a Gwroldeb yn golygu os bydd person yn gwneud rhywbeth gwrol, cyfrifol neu er budd pobl eraill, bydd hyn yn cael ei ystyried gan y llysoedd.

Drwy Fil Cymru, rydym yn parhau gyda deddfwriaeth i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru dros drethiant a buddsoddi.

Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol yn ategu ein hymrwymiad i wella bywydau pobl yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd ar 4 June 2014