Y Cyfrin Gyngor yn cymeradwyo Refferendwm ar 3 Mawrth
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y newyddion bod cynlluniau am refferendwm am fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol wedi…
Croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y newyddion bod cynlluniau am refferendwm am fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol wedi’u cymeradwyo’n derfynol heddiw.
Y prynhawn hwn, cymeradwyodd y Cyfrin Gyngor y gorchmynion sy’n agor y drws i gynnal y bleidlais ar Fawrth 3, gan gyflawni ymrwymiad gan y llywodraeth glymblaid ac yn dilyn cais gan Aelodau’r Cynulliad.
Dywedodd Mrs Gillan mai dewis pobl Cymru fydd lleisio eu barn yn y refferendwm fis Mawrth nesaf.
Wedi i Ei Mawrhydi gymeradwyo’r Gorchymyn refferendwm a’r Gorchmynion cysylltiedig yn y Cyngor, dywedodd Mrs Gillan: “Rwy’n falch bod y Cyfrin Gyngor wedi cymeradwyo’r Gorchmynion heddiw. Mae cymeradwyo’r gorchmynion heddiw yn nodi diwedd misoedd o waith caled rhwng y Swyddfa Gymreig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid allweddol eraill a golyga y bydd refferendwm ar bwerau’r Cynulliad ar Fawrth 3 y flwyddyn nesaf.
“Rwyf wastad wedi ymrwymo i roi’r cyfle i bobl Cymru benderfynu mewn refferendwm a ydynt am i’r Cynulliad gael y pwerau hyn, ac roedd yn un o’m prif flaenoriaethau pan gychwynnais ar y swydd ym mis Mai. Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i gyflawni heddiw, ac mae ond yn iawn ac yn briodol i bobl Cymru gael mynegi eu barn mewn refferendwm fis Mawrth nesaf.”
Nodiadau
Am ragor o wybodaeth am y refferendwm, ewch i:
http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/amdanom-ni/refferendwm/