Datganiad i'r wasg

Cefnogaeth y sector preifat yn helpu i greu gweithlu medrus ar gyfer Gogledd Cymru

Heddiw (ddydd Iau, 20 Ionawr) bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld a sir y Fflint i weld sut mae cyflogwyr yn y sector preifat…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (ddydd Iau, 20 Ionawr) bu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymweld a sir y Fflint i weld sut mae cyflogwyr yn y sector preifat yn darparu cefnogaeth ar gyfer sgiliau ac yn creu cyfleoedd gwaith i’r gweithlu lleol.

Ymwelodd Mrs Gillan a’r ffatri injans Toyota yng Nglannau Dyfrdwy - lle dechreuwyd ar y gwaith o gynhyrchu injans hybrid newydd ar gyfer y Toyota Auris y llynedd - a Choleg Glannau Dyfrdwy, sydd a chysylltiadau cryf a Toyota drwy’r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu (Semta).

Aeth Ysgrifennydd Cymru ymlaen wedyn i’r Ganolfan Byd Gwaith yn Shotton, lle cyfarfu a chyflogwyr lleol i drafod eu hymarferion recriwtio diweddar yng Ngogledd Cymru.

Trefnwyd yr ymweliad a Toyota gan Graham Hillier, y Rheolwr Materion Cyffredinol, sy’n aelod o Grŵp Cynghori ar Fusnes newydd Swyddfa Cymru sy’n cael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Dywedodd Mrs Gillan: “Fel un o brif wneuthurwyr ceir y byd, mae Toyota wedi dangos gwir hyder yn eu gweithlu yng Nglannau Dyfrdwy. Mae eu penderfyniad i adeiladu’r injan hybrid yma wedi bod yn fuddiol iawn i gyflenwyr lleol, i’r gymuned leol ac i Toyota eu hunain, sy’n elwa o’r gweithlu medrus dros ben sydd gan Gymru i’w gynnig.

“Mae’r diwydiant modurol yn dal yn bwysig iawn i economi Cymru a’r DU, felly mae’n wych gweld cysylltiadau’n cael eu meithrin rhwng Toyota a cholegau fel Coleg Glannau Dyfrdwy. Hyd yma, mae Toyota wedi rhoi gwerth dros £100,000 o offer i golegau yng Nghymru, gan gynnwys Toyota Auris newydd sbon yr wythnos diwethaf i Goleg Glannau Dyfrdwy.”

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae’r cysylltiadau rhwng busnesau a cholegau yn rhoi cyfleoedd gwych i fyfyrwyr ddysgu sgiliau a chael profiad uniongyrchol yn y meysydd o’u dewis, a hefyd yn sicrhau bod busnesau’n cael eu cefnogi gan weithlu lleol hynod fedrus.

Yng Nghanolfan Byd Gwaith Shotton, cyfarfu Mrs Gillan a chynrychiolwyr o Mental Health Care - y darparwr gofal annibynnol mwyaf yng ngogledd Cymru - a’r cwmniau adwerthu mawr, Debenhams a Morrisons - wrth i bob un ohonynt greu swyddi yn ddiweddar ledled gogledd Cymru.

Meddai: “Mae’r Llywodraeth glymblaid yn sylweddoli mai’r sector preifat fydd yn arwain y twf economaidd ac yn creu swyddi yng Nghymru, wrth i’r adferiad barhau.

“Roedd y ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn galonogol, gan ddangos cynnydd yn nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru a lleihad yn y gyfradd anweithgarwch economaidd. Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyfleu’r neges bod gwaith yn talu, a chyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddenu rhagor o fusnesau i Gymru i gynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer ein gweithlu parod ac abl.”

Cyhoeddwyd ar 20 January 2011