Stori newyddion

Y Prif Weinidog yn mynd a chwmnïau o Gymru gyda hi ar ei hymweliad cyntaf ag Affrica

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymuno â’r Prif Weinidog yn Ne Affrica

Exports

Exporting is GREAT

Bydd cwmnïau arloesol o Gymru’n ymuno â’r Prif Weinidog ar ei thaith gyntaf i Affrica, wrth iddi gyflwyno’r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau’r Deyrnas Unedig dyfu mewn marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg ledled y cyfandir.

Bydd y cwmni o Gaerdydd, Sure Chill, ymhlith y 29 o gwmnïau o bob cwr o’r wlad sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig yr wythnos hon ac yn gobeithio ehangu ymhellach i farchnadoedd allweddol ledled Affrica.

Mae technoleg oeri chwyldroadol y cwmni’n cael ei defnyddio ar draws y byd yn barod, gan gynnwys mewn 20 o wledydd yn Affrica. Gall ei gynnyrch, fel yr oergell ar gyfer brechlynnau, gadw’n oer pan fydd y pŵer wedi diffodd am dros 12 diwrnod mewn tymheredd o 43C. Mae’n gweithio gyda sefydliadau fel UNICEF a Sefydliad Iechyd y Byd, yn ogystal â brandiau sy’n flaenllaw ledled y byd, i ddatblygu datrysiadau ar gyfer cartrefi a busnesau.

Bydd Hydro Industries, y cwmni technoleg dŵr o Sir Gaerfyrddin, yn ymuno â’r Prif Weinidog hefyd. Mae’r cwmni hwn yn datblygu, yn dylunio ac yn gweithredu datrysiadau o’r radd flaenaf ar gyfer puro dŵr a phrosesu elifion diwydiannol, gan ddarparu technoleg lân i farchnad fyd-eang.

Bydd yr ymweliad yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau Prydain allu ffurfio partneriaethau newydd mewn economïau sy’n tyfu’n gyflym iawn ar draws y cyfandir.

Bydd y cwmnïau’n ymweld â De Affrica, Nigeria a Kenya lle byddant yn cwrdd â busnesau blaenllaw, llunwyr polisïau ac entrepreneuriaid er mwyn creu cysylltiadau ariannol, masnach ac allforio newydd rhwng y Deyrnas Unedig ac Affrica.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymuno â’r Prif Weinidog yn Ne Affrica, lle byddant yn cwrdd ag amryw o fusnesau i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi gyda Chymru a’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May:

Mae’r cwmnïau o Gymru a fydd yn dod i Affrica gyda mi yn enghreifftiau rhagorol o sut mae arloesi yn y Deyrnas Unedig yn trawsnewid y sector technoleg ar raddfa fyd-eang.

Mae Sure Chill a Hydro Industries wedi dangos uchelgais ac ymrwymiad - dyma’n union beth rwy’n dymuno ei weld gan fusnesau Prydain. Rwy’n falch eu bod yn ymuno â mi ar yr ymweliad pwysig hwn, wrth i’r Deyrnas Unedig geisio cryfhau ei chysylltiadau ag Affrica.

Dywedodd Wayne Preece, Prif Swyddog Gweithredol Hydro Industries:

Mae’r ymweliad hwn yn rhoi’r cyfle i ni dynnu sylw at yr arloesi, y dechnoleg, y gweithgynhyrchu a’r gwaith adeiladu gorau ym Mhrydain, a sut gall hyn fynd i’r afael â’r heriau anoddaf y mae’r gwledydd datblygol yn eu hwynebu mewn ffordd effeithiol iawn.

Rwyf wedi gweld sut mae technoleg Hydro wedi trawsnewid bywydau rhai o’r bobl fwyaf difreintiedig yn y byd. Byddai’r cyfle i wneud hyn ar raddfa llawer mwy gyda phartneriaid mor gryf a chefnogaeth ariannol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eithriadol o gyffrous, ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymweliad hwn yn helpu i ganfod rhai cyfleoedd ar unwaith.

Dywedodd Nigel Saunders, Prif Swyddog Gweithredol Sure Chill:

Mae Affrica yn farchnad bwysig iawn i Sure Chill - o’n oergelloedd ar gyfer brechlynnau sy’n achub bywydau i’n oergelloedd domestig oddi ar y grid sy’n newid bywydau, yn ogystal â’n defnydd o dechnoleg ynni gwyrdd yn y dyfodol.

Mae bob amser yn fraint dod i Affrica i weld ein gwaith arloesol drosom ein hunain, ac mae’n fraint bod yma y tro hwn gyda’r Prif Weinidog, Theresa May, wrth i’r Deyrnas Unedig gryfhau ei chysylltiadau â’r cyfandir hwn sy’n datblygu mor gyflym.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y Prif Weinidog yn nodi sut bydd y bartneriaeth newydd rhwng y Deyrnas Unedig ac Affrica yn gallu ychwanegu gwerth at economi’r Deyrnas Unedig a chreu cyfleoedd newydd yn y farchnad i fusnesau Prydain.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru:

Mae marchnad Affrica yn cyflwyno cynifer o gyfleoedd i fusnesau Cymru sy’n dymuno tyfu a dod o hyd i gynulleidfaoedd newydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mae cwmnïau fel Hydro Industries a Sure Chill wedi mwynhau llwyddiant mawr yn barod wrth fynd â’u cynnyrch o amgylch y byd. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yr ymweliad hwn yn agor rhagor o ddrysau iddyn nhw. Bydd yn ysbrydoli busnesau eraill o Gymru sy’n gobeithio cael yr un llwyddiant mewn marchnadoedd tramor.

Cyhoeddwyd ar 26 August 2018