Datganiad i'r wasg

Porsche yw’r prif frand mawreddog a glampiwyd gan DVLA y llynedd

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan DVLA heddiw, mae Porsche wedi dod ar frig y rhestr o geir mawreddog a glampiwyd oherwydd eu bod heb eu trethu o 2017 i 2018.

Cartoon image of a clamped Porsche
Gwneuthuriad Cyfanswm a glampiwyd
ac a atafaelwyd
Porsche 199
Abarth 28
Maserati 23
Bentley 20
Cadillac 19
Tesla 10
Triumph 10
Aston Martin 8
Rolls-Royce 8
Ferrari 7
Lotus 4
TVR 3
Hummer 1
Lincoln 1
McLaren 1

Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cafodd 133,000 o gerbydau eu clampio oherwydd eu bod heb eu trethu. Roedd hyn yn cynnwys bron 350 o geir mawreddog, yn cynnwys 199 Porsche, 28 sbortscar Eidaleg, Abarth, 23 Maserati, 20 Bentley a hyd yn oed Hummer.

Ar y cyfan, roedd gwneuthuriad a modelau mwyaf poblogaidd y DU, sef Ford Focus a Vauxhall Astra yn ymddangos ar frig y rhestr gyda 6,000 yr un. Hefyd, clampiwyd 73 Tacsi Llundain, 5 Harley-Davidson, 4 cartref modur a Irisbus am eu bod heb eu trethu.

Dal ar frig y rhestr oedd lliw arian, y lliw mwyaf poblogaidd o gerbydau i gael eu clampio gyda dros 32,000 o gerbydau yn cael eu clampio yn ystod y flwyddyn, 2000 yn fwy nag yn y flwyddyn ddiwethaf. Daeth cerbydau du yn ail i gerbydau glas a chafodd 690 o gerbydau aur eu clampio hefyd.

Lliw Cyfanswm a glampiwyd
ac a atafaelwyd
Arian 32,558
Du 25,329
Glas 25,026
Gwyn 16,663
Llwyd 12,303
Coch 11,126
Gwyrdd 5,489
Melyn 842
Llwydfelyn 813
Aur 690

Dywedodd Bethan Beasley, Uwch Arweinydd Gorfodaeth DVLA:

Mae’r ffigurau hyn yn dangos does dim ots pa fath o gerbyd rydych yn berchen arno, ai sbortscar, cartref modur neu hyd yn oed bws – os nad ydych yn ei drethu, byddwn yn ei glampio.

Ni fu erioed yn haws trethu eich car – nid yw’n cymryd ond ychydig o gliciau i’w wneud ar-lein a gallwch ei wneud 24 awr y dydd. Peidiwch â chymryd y risg – nid yw’n werth e.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Gweler y rhestr lawn o gerbydau a glampiwyd ac a atafaelwyd ar gyfer 2017 i 2018: Cerbydau a glampiwyd ac a atafaelwyd ar gyfer 2017 i 2018 (PDF, 602 KB, 42 pages)
  2. Gallwch wirio statws treth a MOT cerbyd unrhyw bryd trwy ein gwasanaeth ymholiadau cerbydau ar-lein.
  3. Gallwch drethu cerbyd 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 27 March 2019