Datganiad i'r wasg

Bydd pobl Cymru yn elwa o araith y Frenhines heddiw, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, Araith y Frenhines, gan ddweud y byddai o fudd i bobl sy’n byw yng Nghymru. A…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, Araith y Frenhines, gan ddweud y byddai o fudd i bobl sy’n byw yng Nghymru.

A hithau’n siarad ar ol yr araith, meddai Mrs Gillan: “Mae araith y Frenhines yn adlewyrchu blaenoriaeth gyntaf y Llywodraeth hon, sef delio a’r diffyg ariannol ac adfer yr economi yng Nghymru ac yng ngweddill y DU er mwyn sicrhau ei bod ar dir cadarn unwaith eto. Yn dilyn ymlaen o gytundeb y glymblaid, mae’n nodi rhaglen eang sy’n cynnwys 20 Mesur newydd - nifer ohonynt a goblygiadau i Gymru.   

“Yn bwysig iawn, mae Araith y Frenhines yn cadarnhau dymuniad y Llywodraeth i weithio gyda gweinyddiaethau datganoledig Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru er budd pobl Cymru. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd  nad oes dim amheuaeth y rhoddir blaenoriaeth i gadarnhau’r refferendwm er mwyn caniatau i bobl Cymru benderfynu ar ragor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol”.

Cyhoeddwyd ar 25 May 2010