Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru yn gweld Potensial ar gyfer Twf Economaidd pellach yn Sir Benfro

Mae gan Sir Benfro botensial anferthol ar gyfer twf economaidd pellach, yn ol Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones yn ystod ei ymweliad canfod…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David Jones ym Mhorthladd AbergwaunMae gan Sir Benfro botensial anferthol ar gyfer twf economaidd pellach, yn ol Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones yn ystod ei ymweliad canfod ffeithiau a’r ardal dros ddeuddydd.

Ymwelodd Mr Jones a Technium Sir Benfro, y cyfleuster ymchwilio a datblygu yn Noc Penfro sy’n cynnig cefnogaeth i gwmniau ifanc sy’n awyddus i ddefnyddio adnoddau ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy’r ardal.

Ar ol cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr economi leol a’r gefnogaeth a roddir gan Technium, cyfarfu’r Gweinidog ag Iain Russell, o Wavedragon, a Chris Williams o Tidal Energy Cyfyngedig, a roddodd fraslun o’r cyfleoedd i ddefnyddio ynni’r mor yn y dyfroedd o amgylch Sir Benfro. 

Cyfarfu hefyd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro Bryn Parry-Jones a Swyddog Mewnfuddsoddi’r awdurdod, Tony Streatfield er mwyn trafod cyfleoedd economaidd.

Ym Mhorthladd Abergwaun, bu penaethiaid Stena yn rhoi gwybod i Mr Jones am y cynlluniau gwerth sawl miliwn o bunnoedd i uwchraddio’r porthladd a sefydlu marina.   Cyfarfu hefyd a Steve Mansel Davies, pennaeth un o’r cwmniau rhyngwladol mwyaf yn yr ardal ar gludo nwyddau ar y ffyrdd, er mwyn trafod materion cludiant lleol.

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r ymweliad deuddydd a Sir Benfro wedi bod yn fuddiol dros ben, gyda chyfle i glywed am yr heriau sy’n wynebu’r economi leol wrth iddi godi o’r dirwasgiad. 

“Mae gan yr ardal botensial anferthol ar gyfer twf economaidd, yn arbennig ym meysydd ynni a llongau.  Roeddwn yn falch felly o gael ymweld a Technium Sir Benfro a Phorthladd Abergwaun hefyd, lle clywais am y cynlluniau cyffrous ar gyfer ailddatblygu.”

Ymwelodd y Gweinidog a phentref Dinas Cross hefyd. Yma, dair blynedd yn ol, lansiodd Cyngor Sir Penfro ei gynllun Cymydog Da cyntaf.  Bu’n trafod rhinweddau’r gwasanaeth gyda rhai o’r trigolion a gwirfoddolwyr.

Dywedodd Mr Jones: “Cefais amser da iawn wrth ymweld a’r Prosiect Cymydog Da yn Ninas Cross, ac mae hwn yn enghraifft ragorol o’r math o gynllun cymunedol yr hoffai’r Llywodraeth ei annog fel rhan o’r cynllun Cymdeithas Fawr.”

Cyhoeddwyd ar 4 August 2010