Ffair fasnach ym Mharis i hyrwyddo marchnadoedd Ffrainc ger bron cwmnïau Cymru
Ysgrifennydd Cymru’n cynnal ymweliad masnach â Ffrainc
The Welsh Flag
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, a Llysgennad Ei Mawrhydi yn Ffrainc, Syr Peter Ricketts, yn croesawu Busnesau Bach a Chanolig o bob rhan o Gymru i ffair fasnach yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis ddydd Iau 13 Mawrth 2014.
Bydd y ffair fasnach, ‘Gorwelion Newydd’, a gynhelir mewn partneriaeth â Masnach a Buddsoddi’r Deyrnas Unedig (UKTI), yn darlunio’r farchnad Ffrengig a’r agweddau cyfreithiol sydd ynghlwm wrth weithio a masnachu yn Ffrainc. Byddant hefyd yn amlinellu sut mae marchnadoedd Prydain a Ffrainc yn wahanol o ran busnes a diwylliant.
Cynrychiolir deunaw cwmni o Gymru o sawl sector amrywiol, yn amrywio o arbenigwyr dillad awyr agored i gwmnïau recriwtio. Bydd y prynhawn o weithgareddau’n cynnwys cyflwyniadau gan gwmnïau sydd wedi ymuno’n llwyddiannus â marchnad Ffrainc, gan gynnwys Nick Pearce-Tomenius, Rheolwr Gyfarwyddwr Object Matrix, Andy Kirk o Quartix Ltd a Diane Larramendy o LeLynx.
Cynhelir derbyniad hefyd gyda’r nos, yng ngofal Syr Peter Ricketts, a bydd y cwmnïau Cymreig a fydd yn bresennol yn cael cyfle i rwydweithio gyda chynrychiolwyr o gwmnïau Ffrengig o farchnad ddiwydiannol Ffrainc yn ei chyfanrwydd.
Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones, AS:
Creu’r amgylchedd priodol lle gall busnesau ffynnu fu calon polisi economaidd y Llywodraeth hon o’r dechrau’n deg, ac mae’r twf economaidd dilynol y mae’r DU yn ei brofi yn brawf bod ein cynllun economaidd hirdymor yn gweithio.
Mae’r DU mewn ras fyd-eang, ac mae gan Gymru rôl bwysig i’w chwarae. Mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn helpu, lle bynnag y gall, i gefnogi busnesau, rhai bach a mawr fel ei gilydd, i allforio eu cynhyrchion a’u harbenigedd i bedwar ban byd.
Mae gan UKTI ran allweddol i’w chwarae yn hyn o beth, ac mae eu cyfraniad at y digwyddiad hwn yn hanfodol i’w lwyddiant. Byddwn yn annog busnesau Cymru i fanteisio i’r eithaf ar y gefnogaeth sydd gan UKTI i’w chynnig, yn ogystal â Llywodraethau Cymru a’r DU, er mwyn i’r sector preifat yng Nghymru a ledled y DU barhau i ffynnu.
Hefyd yn siarad cyn y digwyddiad, dyma oedd gan Nick Pearce-Tomenius, Rheolwr Gyfarwyddwr Object Matrix, i’w ddweud:
Mae Object Matrix yn darparu storfa ddata ganolradd ddiogel a chadarn i gwmnïau cyfryngol a darlledwyr ar draws y byd. Cafodd ein strategaeth o ddechrau’n lleol yng Nghymru, ond â’n bryd ar y byd mawr, hwb sylweddol gan gymorth Busnes Rhyngwladol Cymru, fel yr oedd ar y pryd. Bu’n gyfrwng i ni gyrraedd ffigurau dylanwadol allweddol yn y farchnad Ffrengig. Diolch i’r cymorth hwnnw, cynyddodd ein refeniw 30% gan ychwanegu M6 a France Télévisions fel cwsmeriaid yn y maes. Yr wyf yn hynod falch o’r cyfle i annerch y derbyniad ym Mharis, gan y bydd yn cryfhau’r cwlwm rhyngom â’n cwsmeriaid cyfredol yn Ffrainc, ac yn gyfle i ni greu cysylltiadau newydd a pharhaus.
Hefyd yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Andy Kirk, Rheolwr Gwerthu a Marchnata Quartix Limited:
Pleser pur gennyf yw mynychu’r digwyddiad hwn. Bu Quatrix yn gweithredu yn Ffrainc er 2010, ac mae ganddo brofiad helaeth o gyflawni gofynion tracio a thelematig ar gyfer marchnad Ffrainc. Mae’n farchnad gystadleuol ac mae safon y gwasanaeth a gynigir yn gorfod bod yn eithriadol o uchel er mwyn cystadlu’n llwyddiannus. Edrychaf ymlaen at rannu profiadau â busnesau eraill hoff gytûn.
Dywedodd Diane Larramendy LeLynx, a fydd hefyd yn siarad yn y digwyddiad:
Yr wyf yn edrych ymlaen at rannu ein profiad fel cwmni o Gymru a sefydlodd adain weithredol yn Ffrainc. LeLynx.fr yw is-gwmni Confused.com yn Ffrainc – y wefan cymharu prisiau yswiriant sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Erbyn hyn, ni sy’n arwain y farchnad yma yn Ffrainc, ac rydym yn gwmni hapus iawn.
Bwriedir cynnal ffeiriau masnach cyffelyb ar gyfer busnesau yng Nghymru sydd â’u bryd ar ehangu dramor yn y misoedd i ddod.