Gall bron i 300,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru bellach gael band eang cyflym iawn
Wrth i'r ffigurau diweddaraf ymddangos, y cam nesaf fydd taclo'r 5% o ardaloedd olaf anoddaf eu cyrraedd yn y DU.
- Mae 4 allan o bob 5 eiddo yn y DU yn gallu cael band eang cyflym iawn erbyn hyn
- Mae wedi cyrraedd 299,876 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn unig
- Datgelu’r ffigurau diweddaraf wrth ddechrau ar y cam nesaf o fynd i’r afael â’r pump y cant olaf o’r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd yn y DU
Mae rhaglen genedlaethol y Llywodraeth i ehangu’r ddarpariaeth o fand eang cyflym iawn wedi cyrraedd mwy na dwy filiwn o gartrefi a busnesau erbyn hyn, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 9 Chwefror). O blith y rhain, mae mwy na 299,876 o eiddo yng Nghymru yn mwynhau mynediad i fand eang cyflymach erbyn hyn.
Mae’r ehangu’n cynnig mynediad cyflym iawn – cyflymder rhyngrwyd sy’n fwy na 24 Mbps – i eiddo heb fod yn rhan o rwydweithiau masnachol presennol ac mae ar y targed i ddarparu mynediad cyflym iawn i 95 y cant o’r DU erbyn 2017. Mae’r DU eisoes yn arwain “pum gwlad fawr” yr Undeb Ewropeaidd o ran mynediad cyflym iawn a’r nifer sy’n gwneud defnydd o’r ddarpariaeth a bydd y rhaglen hon yn sicrhau ei bod yn parhau ar y blaen.
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cyswllt rhyngrwyd cyflym i unigolion a busnesau fel ei gilydd, ac mae ei buddsoddiad o £1.7 biliwn yn yr ehangu’n rhan allweddol o gynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth. Mae gan oddeutu 80 y cant o’r DU fynediad i gyflymder cyflym iawn eisoes, ac mae’r ehangu’n cyrraedd 40,000 o gartrefi a busnesau ychwanegol bob wythnos.
Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Diwylliant:
Heddiw mae dwy filiwn yn rhagor o gartrefi a busnesau yn y DU yn gallu gwneud defnydd o fand eang cyflym iawn o gymharu â dwy flynedd yn ôl, o ganlyniad i’r prosiect uchelgeisiol yma. Mae hwn yn ganlyniad gwych ac mae eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth i filiynau o bobl. Rydyn ni am i bawb yn y DU allu mwynhau manteision band eang cyflym iawn a dyna pam rydyn ni wedi dechrau gweithio ar gyrraedd y pump y cant olaf o gymunedau nad ydyn nhw’n rhan o’r cynlluniau presennol.
Mae band eang cyflymach yn gatalydd ar gyfer twf economaidd. Amcangyfrifir y bydd rhaglen ehangu’r Llywodraeth yn arwain at greu 56,000 yn rhagor o swyddi yn y DU erbyn 2024. Bydd band eang cyflym iawn yn rhan greiddiol o sbarduno elw i fusnesau lleol, a bydd yr economi wledig yn elwa o tua £9 miliwn bob dydd oherwydd y gwaith sy’n cael ei wneud nawr.
Mae partneriaid y prosiect, BT Openreach, yn ehangu’r cebl ffeibr optig yn awr i sicrhau’r cyflymder gorau posib, gyda chynnydd gwych hyd yma ym mhob ardal yng Nghymru.
Dywedodd Joe Garner, Prif Weithredwr Openreach, busnes rhwydwaith lleol BT:
Rydyn ni’n falch o fod yn darparu’r llwyddiant gwych yma ym Mhrydain mewn partneriaeth â’r Llywodraeth ac rydyn ni wedi ymrwymo hyd at £1 biliwn o arian ein cyfranddalwyr i’r prosiectau. Mae’r rhaglen ar amser yn gyffredinol ac mae ein staff yn parhau i weithio’n galed ar gysylltu cartrefi a busnesau yn yr ardaloedd anodd eu cyrraedd yn y DU.
Os byddwn ni’n gallu cwblhau’r gwaith yn rhatach na’r gyllideb, bydd posib ailfuddsoddi’r arbedion i fynd â’r ddarpariaeth ymhellach fyth. Hefyd, bydd arian yn cael ei ryddhau os bydd mwy na’r disgwyl yn penderfynu gwneud defnydd o’r ddarpariaeth, ac mae hynny eto o werth mawr i’r trethdalwr.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae cynllun economaidd tymor hir y Llywodraeth yn ymwneud â chefnogi busnesau a chreu’r amodau priodol er mwyn iddynt ehangu.
Mae band eang cyflym iawn yn helpu busnesau i weithio’n effeithiol. Does dim rhyfedd bod ardal de Cymru wedi’i chyhoeddi’n ddiweddar fel un o’r clystyrau technolegol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.
Mae cyrraedd y garreg filltir yma’n dangos y trawsnewid enfawr sydd wedi digwydd yn ein tirlun digidol a pha mor benderfynol ydyn ni o gael cymaint o bobl â phosib ar-lein.
Mae rhaglen ehangu’r Llywodraeth yn dangos gwerth am arian clir ac mae llawer o’r gwaith presennol ar y blaen i’r amserlen eisoes. Mae’r ffocws erbyn hyn yn gadarn ar yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd sy’n cynnwys y “pump y cant olaf” ac mae’r Llywodraeth eisoes wedi dechrau gweithio ar ymestyn y band cyflym i gyrraedd y cymunedau hyn.
Cadarnhaodd y Llywodraeth heddiw y bydd saith cynllun peilot sy’n ceisio helpu i gyrraedd yr ardaloedd hyn yn cael eu gweithredu yn awr, ar ôl cwblhau cam cyntaf y cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Bydd y saith cynllun yn gwneud y canlynol:
- Creu tystiolaeth o gost cyflwyno darpariaeth gyflym iawn yn yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, er mwyn deall lefel y buddsoddiad fydd ei angen yn well
- Meithrin gallu a chapasiti yn y farchnad, ac ehangu gwybodaeth y farchnad am ofynion Cymorth y Wladwriaeth, drwy rannu canfyddiadau’r cynllun peilot mor eang ag y bo modd
- Creu tystiolaeth o lefelau disgwyliedig o ddefnydd yn yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd, a sut gellir cymell hynny