Datganiad i'r wasg

Gwasanaethau ar-lein wedi'u dylunio ar gyfer symudwyr cartref

Gyda’r ychwanegiad o’r gwasanaeth ar-lein newydd, gall cwsmeriaid ddiweddaru'r cyfeiriad ar eu trwydded yrru a'u llyfr log mewn llai na 5 munud ar GOV.UK.

Mae ffigurau newydd a ryddhawyd gan DVLA yn dangos bod tua 66% o’r holl gwsmeriaid sy’n newid y cyfeiriad ar eu trwydded yrru bellach yn gwneud hynny ar-lein. Gan mai mis Awst yn draddodiadol yw’r mis sydd ar y brig am symud tŷ yn y DU, mae DVLA heddiw (27 Awst) yn atgoffa modurwyr pa mor syml ydyw i gadw eu cyfeiriad yn gyfredol ar-lein, er mwyn osgoi peryglon gan gynnwys llythyrau atgoffa.

Yn ogystal â thrwyddedau gyrru, mae tua 1.5 miliwn o lyfrau log cerbydau hefyd yn cael eu diweddaru gyda chyfeiriad newydd bob blwyddyn. Yn dilyn y farchnad dai yn ail-agor ar ôl y cyfyngiadau symud, lansiodd DVLA y gwasanaeth ar-lein newydd i fodurwyr ddiweddaru’r cyfeiriad ar eu llyfr log cerbydau (V5CW) heb orfod postio dogfennau i DVLA. Hyd yma, mae dros 130,000 o lyfrau log wedi’u diweddaru a’u hanfon at gwsmeriaid sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn, sy’n cyflymu’r broses i dderbyn llyfr log newydd – gan leihau amseroedd aros o 6 wythnos i ddim ond 5 diwrnod gwaith.

Mae gwasanaeth ar-lein DVLA i ddiweddaru’r cyfeiriad ar drwydded yrru wedi bod ar gael ers sawl blwyddyn ond ni fu erioed yn fwy poblogaidd, gyda DVLA yn prosesu tua 2.2 miliwn o newidiadau cyfeiriad gan gwsmeriaid a ddefnyddiodd y gwasanaeth hwn y llynedd yn unig. Nawr, gyda’r ychwanegiad o’r gwasanaeth ar-lein newydd, gall cwsmeriaid ddiweddaru’r cyfeiriad ar eu trwydded yrru a’u llyfr log mewn llai na 5 munud ar GOV.UK.

Dywedodd Anthony Bamford, Rheolwr Gwasanaeth DVLA:

Ein gwasanaethau ar-lein fydd y ffordd gyflymaf i gadw eich cyfeiriad yn gyfredol gyda ni bob amser, sy’n helpu i sicrhau nad ydych yn colli gohebiaeth bwysig ar ôl i chi symud tŷ.

Mae miliynau o yrwyr yn newid y cyfeiriad ar eu trwydded yrru fel hyn, a gallwch nawr ddiweddaru llyfr log eich cerbyd ar-lein hefyd. Mae’n bwysig cofio diweddaru’r ddau pan fyddwch chi’n symud - ac mae’n gyflym a hawdd ar GOV.UK.

Dywedodd Adrian Camp, Rheolwr Gyfarwyddwr Home Move Box, sy’n dosbarthu blychau croeso i symudwyr cartref ledled y DU:

Mae mis Awst bob amser wedi bod yn un o’r misoedd mwyaf poblogaidd i symud cartref, a gyda’r cyfyngiadau symud yn rhoi’r amser i bobl ailasesu eu trefniadau byw, gall nawr fod yr adeg pan fyddan nhw’n edrych i wneud eu cam nesaf.

Efallai bod hyn yn ymddangos yn frawychus, gyda chymaint i’w drefnu, ond mae diweddaru’r cyfeiriad ar eich llyfr log a’ch trwydded yrru yn gyflym ac yn hawdd i’w wneud, a gallai arbed llawer o amser a straen i chi yn y tymor hir. Mae’n rhad ac am ddim i wneud hyn ar-lein ar GOV.UK ac mae’n cymryd ychydig funudau’n unig.

Nodiadau i olygyddion:

1) Anfonir gohebiaeth hanfodol am gerbyd – fel llythyrau atgoffa i’w drethu, yn ogystal ag unrhyw ad-daliadau treth cerbyd sy’n ddyledus – i gyfeiriad y ceidwad cofrestredig, a dyna pam ei bod mor bwysig i fodurwyr hysbysu’r DVLA os bydd hyn yn newid. Mae diweddaru eu trwydded yrru gyda’u cyfeiriad presennol hefyd yn golygu y gall gyrwyr osgoi gohebiaeth a allai olygu bod eu gwybodaeth bersonol yn syrthio i’r dwylo anghywir, a allai eu gadael yn agored i ddwyn hunaniaeth a thwyll arall.

2) Gellir dirwyo modurwyr hyd at £1,000 os nad ydynt yn dweud wrth DVLA pan fydd eu cyfeiriad yn newid.

3) Yn 2015, proseswyd 1,411,524 o drafodion ar gyfer ‘newid cyfeiriad ar drwydded yrru’ gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein DVLA. Yn 2019, proseswyd 2,198,842 o drafodion gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Ar gyfer 2020, mae 1,074,163 o drafodion wedi’u prosesu hyd at 20 Gorffennaf ar y gwasanaeth hwn.

4) Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019 i 2020, cyhoeddodd DVLA 5,221,127 o ad-daliadau awtomatig. Pan fydd cerbyd yn newid ceidwad, bydd DVLA yn ad-dalu’n awtomatig i’r ceidwad blaenorol unrhyw fisoedd llawn o dreth gerbydau sy’n weddill ac anfon y taliad i’r cyfeiriad sydd gan DVLA ar gofnod y cerbyd.

5) Mae dadansoddiad o ddata symud tai CompareMyMove.com yn dangos bod yn well gan drigolion y DU symud tŷ ym mis Awst ac yn ystod misoedd yr haf; Awst yw’r mis mwyaf poblogaidd i symud tŷ. Dod o hyd i ragor o wybodaeth am symud cartref.

6) Mae Home Move Box yn helpu i dynnu’r straen allan o symud drwy anfon blychau croeso i dros 200,000 o symudwyr cartref bob blwyddyn ledled y DU. Dod o hyd i ragor o wybodaeth ar Home Move Box.

7) Gallwch ddiweddaru’r cyfeiriad ar eich trwydded yrru neu lyfr log eich cerbyd ar GOV.UK.

Pan fyddwch wedi cwblhau eich cais ar-lein i newid y cyfeiriad naill ai ar gyfer eich trwydded yrru neu lyfr log, bydd blwch cynorthwyo yn ymddangos ar y sgrin gyda dolen i’r gwasanaeth arall, i’ch atgoffa bod angen i chi ddiweddaru manylion eich cyfeiriad ar gyfer y ddau. Nid oes cost i ddiweddaru eich manylion gan ddefnyddio’r naill wasanaeth na’r llall.

8) Nid oes angen i chi ddweud wrth DVLA os byddwch yn symud dros dro (er enghraifft eich bod yn byw i ffwrdd yn y brifysgol) os oes modd parhau i gysylltu â chi yn eich cyfeiriad parhaol.

9) Gallwch ddal i yrru tra byddwch yn aros i’ch dogfennau newydd gael eu hanfon atoch.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 27 August 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 August 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.