Stori newyddion

Ar y ffordd i gael gwasanaeth rheilffyrdd gwell i Gymru: Ysgrifennydd Cymru’n croesawu’r cynllun IIP i foderneiddio rheilffyrdd Cymru

Heddiw [29 Medi 2011] croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, gynigion cychwynnol i foderneiddio’r gwasanaeth rheilffyrdd, sy’n cynnwys…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [29 Medi 2011] croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, gynigion cychwynnol i foderneiddio’r gwasanaeth rheilffyrdd, sy’n cynnwys trydaneiddio Leiniau’r Cymoedd i ac o Gaerdydd.

Mae Cynllun Cychwynnol y Diwydiant (IIP) yn nodi cynigion y diwydiant ar gyfer gwella’r gwasanaeth ac yn gyfraniad pwysig at broses y Llywodraeth o ddatblygu ei chynlluniau i fuddsoddi yn y rheilffyrdd dros bum mlynedd o 2014/15 ymlaen.

Croesawodd Mrs Gillan y newyddion bod trydaneiddio leiniau cymudo’r Cymoedd yn parhau i fod yn bosibilrwydd cryf a dywedodd y byddai’n parhau i weithio gyda’r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda’r cynigion hyn.

Daw’r newyddion heddiw yn sgil cyhoeddi cynlluniau’r Llywodraeth i drydaneiddio Prif Lein y Great Western rhwng Llundain a Chaerdydd erbyn 2017. Mae’r achos dros drydaneiddio i Abertawe’n parhau i gael ei adolygu.

Meddai Mrs Gillan: “Mae ein IIP heddiw’n dangos pa mor bwysig yw gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd er mwyn gwella cyswllt Cymru gyda gweddill y wlad a gyda’i chymunedau ei hun.
“Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i fuddsoddi mewn a darparu rhwydwaith mwy effeithlon a chynaliadwy, gan roi gwerth am arian gwell i drethdalwyr a theithwyr ar y trenau. Rydym wedi sefydlu bod yna efallai achos cryf lefel uchel dros drydaneiddio Leiniau Cymoedd Caerdydd a byddai hyn yn rhoi neges bwysig am y cyfleoedd gwych sydd ar gael i ddatblygu’r economi yn y rhanbarth.

“Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar achos busnes cynllun o’r fath, gyda chymorth ac o dan arweiniad yr Adran Drafnidiaeth, gyda’r bwriad y gellir ei gynnwys yn rhaglen nesaf Llywodraeth y DU o fuddsoddi yn y rheilffyrdd ar gyfer 2014-2019. Mae’r cynllun yn fan cychwyn i sgwrs gydag arweinwyr y diwydiant ar ddyfodol y rhwydwaith a byddaf yn parhau i bwyso dros drydaneiddio i’r cymoedd, gan weithio gyda’r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.

“Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, gwnaethom gyhoeddi buddsoddiad o £1 biliwn i drydaneiddio’r lein rhwng Llundain a Chaerdydd a bydd gwelliannau pellach yn cael eu hystyried yn ofalus dros y misoedd nesaf, wrth inni benderfynu’n derfynol ar y pecyn rheilffyrdd. Rwyf wedi dweud droeon bod yr achos dros drydaneiddio i Abertawe’n dal i gael ei adolygu. Cyn belled ag yr wyf i’n y cwestiwn, mae’n fusnes anorffenedig.
“Mae cyswllt rheilffyrdd gwell yn elfen hanfodol o ddarparu economi lwyddiannus i Gymru. Mae hefyd yn galonogol bod pawb yn y diwydiant rheilffyrdd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniadau gwell i deithwyr a rwyf yn ffyddiog y byddwn yn taro’r cydbwysedd iawn rhwng twf, buddsoddi a diwygio”.

Cyhoeddwyd ar 29 September 2011