Datganiad i'r wasg

Nifer y bobl sy’n hawlio lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru’n gostwng am yr 23ain mis yn olynol

Stephen Crabb: “Mae angen i ni ddal ati i weithio’n galed i sicrhau bod y patrwm tymor hir cadarnhaol mewn cyflogaeth yn parhau.”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r ffigurau swyddogol sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw (18 Chwefror) gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod cyflogaeth yng Nghymru wedi codi 3,000 dros y tri mis Hydref i Ragfyr 2014 – serch hynny roedd diweithdra wedi codi 2,000 dros yr un cyfnod.

Ym mis Ionawr eleni gwelwyd gostyngiad o 2,100 yn nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yng Nghymru – gostyngiad am y 23ain mis yn olynol.

Ers 2010, mae yna 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith a 26,500 yn llai o bobl yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’n glir o’r ffigurau diweddaraf hyn bod angen i ni ddal ati i weithio’n galed i sicrhau bod y patrwm tymor hir cadarnhaol mewn cyflogaeth yn parhau.

Rydyn ni bob amser wedi dweud nad yw’r ffordd at adferiad yn un syml ac mae sialensiau o’n blaenau o ran sicrhau twf tymor hir ar draws pob rhan o’r wlad.

Dyma pam fy mod yn treulio dau ddiwrnod wythnos yma yng Ngogledd Cymru yn siarad â’r busnesau sy’n creu swyddi ac yn dysgu pa gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen arnyn nhw gan y Llywodraeth er mwyn parhau i dyfu.

Ochr yn ochr â hynny, mae ein diwygiadau lles yn rhoi’r hyder a’r sgiliau angenrheidiol i ragor o bobl er mwyn iddyn nhw allu symud i waith a chreu bywyd gwell i’w teuluoedd.

Felly mae hi’n bwysicach nag erioed o’r blaen ein bod yn glynu wrth y cynllun ac nad ydyn ni’n cael ein gwyro oddi ar y llwybr at adferiad economaidd tymor hir.

Cyhoeddwyd ar 18 February 2015