Data Trafodiad mis Tachwedd 2015
Mae'r data hwn yn rhoi gwybodaeth am y niferoedd a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Tachwedd 2015.

Ym mis Tachwedd 2015:
- cwblhaodd y Gofrestrfa Tir 1,494,887 o geisiadau
- De Ddwyrain Lloegr oedd ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 344,669 o geisiadau
- Birmingham oedd ar frig y tabl o geisiadau gan awdurdodau lleol gyda 22,352 o geisiadau
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,494,880 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Tachwedd. Mae hyn yn cynnwys 1,463,088 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:
- 363,700 yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
- 677,160 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 206,321 yn chwiliadau
- 93,721 yn drafodion am werth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 344,669 |
Llundain Fwyaf | 295,928 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 167,971 |
De Orllewin Lloegr | 147,212 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 123,075 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 114,098 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 104,475 |
Gogledd Lloegr | 68,787 |
Cymru | 68,548 |
Dwyrain Anglia | 60,012 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 57 |
Ynysoedd Sili | 55 |
Cyfanswm | 1,494,887 |
Tri phrif awdurdod lleol | Ceisiadau |
---|---|
Birmingham | 22,352 |
Dinas Westminster | 20,361 |
Leeds | 16,991 |
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 2,193 |
Winckworth Sherwood | 1,295 |
O’Neill Patient | 1,025 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 8,677 |
Optima Legal Services | 7,725 |
TM Group (UK) Ltd (Search Choice) | 6,271 |
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Rhagfyr ar ddydd Gwener 22 Ionawr 2016 am 11 y bore ar data.gov.uk
- Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Ar gyfer esboniad o’r termau a ddefnyddir, gweler Byrfoddau a ddefnyddir yn y Data Trafodiad
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov a @CofrestrfaTir a dewch o hyd i ni ar ein blog, LinkedIn a Facebook
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
Email HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344