Bydd prosiect gwynt ar môr yn dod â swyddi a thwf i ogledd Cymru, yn ôl Ysgrifennydd Cymru
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, wedi dweud y bydd prosiect gwynt ar y môr newydd oddi ar arfordir Gogledd Cymru yn helpu i ddod â thwf a swyddi da i’r ardal.
Mae prosiect Awel y Môr, sy’n cael ei ddatblygu ym Môr Iwerddon oddi ar arfordir Gogledd Cymru, yn un o’r prosiectau a enillodd gontract gyda Llywodraeth y DU ar 14 Ionawr.
Bu Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym Mhorthladd Mostyn yr wythons diwethaf (22 Ionawr) i gwrdd ag RWE, datblygwr y prosiect, ac i glywed am y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer safle Awel y Môr.
Pan fydd y prosiect wedi’i gwblhau, bydd hyd at 50 o dyrbinau wedi cael eu hadeiladu tua 10km oddi ar yr arfordir, i’r gorllewin o safle presennol Gwynt y Môr.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae datblygu prosiect Awel y Môr yn newyddion enfawr i Ogledd Cymru a bydd yn dod â mwy o dwf a swyddi medrus sy’n talu’n dda i’r ardal leol.
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio gyda buddsoddwyr i ddatblygu pŵer glân cynhenid a fydd yn sicrhau ein cyflenwad ynni ac yn lleihau biliau am byth.
Mae Cymru wrth galon y nodau hyn, a bydd prosiectau fel Awel y Môr yn ein helpu i’w cyflawni.
Dywedodd Philippa Powell, Arweinydd Prosiect Awel y Môr:
Yn dilyn ein llwyddiant yn y rownd arwerthu ddiweddaraf ar gyfer y Contract Gwahaniaeth, roedd yn bleser gallu rhannu’r newyddion gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ein cynlluniau ar gyfer Awel y Môr dros y flwyddyn nesaf, wrth i ni weithio tuag at benderfyniad buddsoddi terfynol.
Bydd Awel y Môr yn gallu pweru dros hanner y cartrefi yng Nghymru pan fydd wedi’i gwblhau, ac mae’n rhan allweddol o ymrwymiad RWE i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru, ochr yn ochr â Chanolfan Sero Net Penfro, a’n prosiectau gwynt a solar ar y tir.
Mae canlyniadau arwerthiant yr wythnos diwethaf yn golygu mai hwn fydd y caffaeliad unigol mwyaf o ynni gwynt ar y môr yn hanes Prydain ac Ewrop, sy’n bleidlais fawr o hyder yng nghyfnod newydd y DU o sofraniaeth ynni.
Llwyddodd y prosiect i sicrhau 8.4GW, sef capasiti uchaf erioed o ynni gwynt ar y môr. Bydd yn cynhyrchu digon o drydan glân i bweru’r hyn sy’n cyfateb i 12 miliwn o gartrefi ac yn rhoi Prydain ar y trywydd iawn i gyflawni ei chenhadaeth pŵer glân erbyn 2030.
Bydd yr arwerthiant hwn yn datgloi tua £22 biliwn o fuddsoddiad preifat, gan gefnogi tua 7,000 o swyddi a dod â thwf a swyddi da i holl ardaloedd y DU, gan gynnwys Cymru.
Yn ogystal ag Awel y Môr, roedd prosiect Erebus yn y Môr Celtaidd oddi ar Sir Benfro hefyd yn llwyddiannus yn yr arwerthiant.